<p>Incwm Sylfaenol Cyffredinol </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 11 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 1:38, 11 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Bydd papur newydd ‘The Sun’ yn gwneud yr hyn y mae papur newydd ‘The Sun’ yn ei wneud, os yw’n haeddu cael ei alw’n ‘bapur newydd’. Ond a gaf fi groesawu’r cwestiwn a ofynnwyd yn ogystal â’r ffordd gadarnhaol yr ymatebodd y Gweinidog? Ac er y byddai rhai o’r dde a’r chwith, sy’n cefnogi’r ymagwedd hon am wahanol resymau, yn dadlau na allwch dreialu hyn mewn gwirionedd, dim ond ei wneud, tynnaf ei sylw at waith diddorol a wnaed yng nghanol Llundain yn 2013, lle rhoddwyd yr hyn sy’n cyfateb i isafswm incwm cyffredinol i 13 o unigolion digartref, heb amodau, heb unrhyw amodoldeb, yn y gobaith y byddai rhywbeth cadarnhaol yn digwydd. Ac wrth gwrs, dywedodd yr amheuwyr ‘Wel, bydd yn cael ei wastraffu.’ Flwyddyn yn ddiweddarach, nid yn unig yr oedd 11 ohonynt mewn cartrefi, gyda llety, ond roedd llawer ohonynt mewn gwaith hefyd mewn gwirionedd. Nawr, credaf fod hwn yn faes diddorol i ni edrych arno a’i archwilio, ac o bosibl yn y dyfodol, wrth i ni ei weld yn esblygu mewn ardaloedd eraill, gallwn ei ystyried yng Nghymru hefyd ar ryw ffurf neu’i gilydd. Felly, croesawaf ymateb meddwl agored Ysgrifennydd y Cabinet.