Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 11 Ionawr 2017.
Diolch i Huw Irranca-Davies am ei gyfraniad. Mae’r enghraifft y cyfeiriodd ati yn ddiddorol iawn. Wrth gwrs, rhoddodd y Ffindir raglen dreialu incwm sylfaenol cyffredinol ar waith ar 1 Ionawr eleni, ac mae’n canolbwyntio’n bendant ar y math o boblogaeth y cyfeiriodd ati. Mae’n dreial mawr sy’n cynnwys 2,000 o bobl a ddewiswyd ar hap ac sy’n ddi-waith ar hyn o bryd, er mwyn gweld beth y gallai incwm sylfaenol diamod ei wneud yn eu bywydau.
Nid yw’r syniad yn un newydd, Lywydd. Amser maith yn ôl, yn y 1970au a’r 1980au, treuliais amser yn cyfweld grŵp o bobl a oedd wedi gorymdeithio ar hyd y strydoedd yn ystod y 1930au yn mynnu’r hyn a alwyd ganddynt yn ‘ddifidend cymdeithasol’, sef cynllun incwm sylfaenol syml, mewn gwirionedd. Felly, mae’n syniad sydd â gwreiddiau cadarn yn ein polisi cymdeithasol—rydym bob amser wedi ei chael yn anodd dod o hyd i ffordd ymarferol o fwrw ymlaen ag ef. Ond mae’n gyfle i ni yng Nghymru edrych ar yr hyn y ceisir ei wneud mewn mannau eraill ac i weld a allem wneud unrhyw beth ymarferol gyda’r syniad ein hunain.