Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 11 Ionawr 2017.
Diolch i Nick Ramsay. Un o nodweddion arbennig y cytundeb yw ei fod yn caniatáu i’r ddwy ochr gyflwyno dadansoddiadau a chyngor annibynnol os oes anghydfod rhyngddynt. Mae hynny’n un o nodweddion newydd y cytundeb ac nid yw’n rhywbeth y mae’r Trysorlys wedi bod yn awyddus i gytuno iddo yn y gorffennol.
Felly, mae’r fframwaith cyllidol yn nodi proses ar gyfer datrys unrhyw anghytundeb, ac yn caniatáu i’r Trysorlys a Llywodraeth Cymru ddefnyddio cyngor annibynnol a sicrhawyd ar gyfer y ddwy ochr ar bob cam o’r broses honno, er mwyn helpu i ddatrys y materion hynny. Mae’n fater y byddaf yn parhau i’w archwilio dros y misoedd nesaf o ran y ffordd orau o sicrhau’r cyngor annibynnol hwnnw ar gyfer Cymru. Mae nifer o opsiynau ar gael. Byddaf yn awyddus i’w pwyso a’u mesur, ond mae’r egwyddor yn bwysig iawn: mewn cyfnod pan fo’r Trysorlys, yn gyffredinol, wedi bod yn farnwr ac yn rheithgor, wedi gallu bod â monopoli ar y dystiolaeth sy’n sail i benderfyniadau, bydd gennym elfen annibynnol y gallwn ei defnyddio, a bydd hynny’n creu math gwahanol o gae chwarae a math gwahanol o drafodaeth.