1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 11 Ionawr 2017.
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Diolch. Blwyddyn newydd dda, Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch.
Rwyf mewn perygl o ailadrodd, gyda phwyllgor y bore yma, a grybwyllwyd gennych yn barod, ond mae’n fyw yn fy nghof ac yn hynod o bwysig: a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â’ch cytundeb gyda Llywodraeth y DU ar y fframwaith cyllidol hirddisgwyliedig?
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn ac am ei ddyfalbarhad wrth fynd ar drywydd y mater hwn ar lawr y Cynulliad? Felly, bydd yr Aelodau’n cofio bod trafodaethau â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi dechrau mor bell yn ôl â mis Gorffennaf y llynedd a’u bod wedi dod i ben yn fuan wedi i’r Cynulliad dorri cyn y Nadolig, gyda chytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid y bore yma, byddaf yn gwneud datganiad llafar ar lawr y Cynulliad ddydd Mawrth yr wythnos nesaf, gan fod y fframwaith cyllidol wedi ei greu yng nghyd-destun Bil Cymru a gobeithiaf allu adrodd i Aelodau’r Cynulliad ac ateb unrhyw gwestiynau cyn y ddadl y byddwn yn ei chael ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol Bil Cymru.
Diolch am eich ymrwymiad i roi datganiad yr wythnos nesaf ac am ymdrechion eich tîm yn hyn o beth. Credaf fod hyn yn enghraifft dda o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fo Llywodraeth Cymru, y Cynulliad yn ei gyfanrwydd, a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’i gilydd. Nid yw hynny wedi digwydd bob amser yn y gorffennol, ond mae’n dda gweld bod cynnydd wedi’i wneud. A allwch roi eglurhad ynglŷn â pharhauster y trefniant newydd hwn, yn ôl yr hyn a ddeallwch? A yw Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i drefniant hirdymor, yn hytrach na’r ymrwymiad blaenorol am dymor y Senedd, fel oedd yn wir bryd hynny yn ôl yr hyn a ddeallaf?
Ydy, Lywydd, mae’n bwynt pwysig i’w wneud, onid yw, na fydd y fframwaith cyllidol yn berthnasol oni bai bod Bil Cymru yn cyrraedd y llyfr statud. Gan ragdybio am y tro ei fod gwneud hynny, mae hwn yn gytundeb parhaol. Cyflawnwyd tipyn o gamp yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, pan lwyddodd fy rhagflaenydd, Jane Hutt, i negodi cyllid gwaelodol i Gymru. Roedd sefydlu hynny fel egwyddor yn bwysig iawn ac yn torri tir newydd, ond cyllid gwaelodol dros dro ydoedd, i bara am gyfnod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Mae’r cyllid gwaelodol a gytunwyd yn y fframwaith cyllidol hwn yn rhan barhaol o’r dirwedd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Mae hynny’n sicr yn newyddion da, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn un o brif fanteision y Bil Cymru presennol wrth iddo fynd rhagddo. Mae’n amlwg fod hwn yn gyfnod cymhleth i’r Cynulliad o ran cyllid, gyda threthi newydd yn cael eu datganoli, yr amrywiant yn y grant bloc yn sgil hynny, dyfodiad pwerau benthyca—fe allwn barhau. Deallaf fod y cytundeb yn caniatáu ar gyfer adolygu’r trefniadau’n flynyddol. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â threfniadau ar gyfer cyfryngu pellach rhwng y Llywodraethau os oes anghytundeb yn y dyfodol ynglŷn â’r arian a ddaw i Gymru? Sut rydych yn bwriadu diogelu annibyniaeth trefniadau ar y ddwy ochr, pan ddaw’r anghytundebau hynny’n amlwg yn y pen draw?
Diolch i Nick Ramsay. Un o nodweddion arbennig y cytundeb yw ei fod yn caniatáu i’r ddwy ochr gyflwyno dadansoddiadau a chyngor annibynnol os oes anghydfod rhyngddynt. Mae hynny’n un o nodweddion newydd y cytundeb ac nid yw’n rhywbeth y mae’r Trysorlys wedi bod yn awyddus i gytuno iddo yn y gorffennol.
Felly, mae’r fframwaith cyllidol yn nodi proses ar gyfer datrys unrhyw anghytundeb, ac yn caniatáu i’r Trysorlys a Llywodraeth Cymru ddefnyddio cyngor annibynnol a sicrhawyd ar gyfer y ddwy ochr ar bob cam o’r broses honno, er mwyn helpu i ddatrys y materion hynny. Mae’n fater y byddaf yn parhau i’w archwilio dros y misoedd nesaf o ran y ffordd orau o sicrhau’r cyngor annibynnol hwnnw ar gyfer Cymru. Mae nifer o opsiynau ar gael. Byddaf yn awyddus i’w pwyso a’u mesur, ond mae’r egwyddor yn bwysig iawn: mewn cyfnod pan fo’r Trysorlys, yn gyffredinol, wedi bod yn farnwr ac yn rheithgor, wedi gallu bod â monopoli ar y dystiolaeth sy’n sail i benderfyniadau, bydd gennym elfen annibynnol y gallwn ei defnyddio, a bydd hynny’n creu math gwahanol o gae chwarae a math gwahanol o drafodaeth.
Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Lywydd. Mae gwleidyddion o blaid Ysgrifennydd y Cabinet a fy mhlaid innau wedi cwyno ers peth amser am y ffaith fod buddsoddiad cyfalaf Llywodraeth y DU wedi tueddu i fod o fudd i un rhan o’r wlad, de-ddwyrain Lloegr, uwchlaw pob rhan arall. A yw’n credu bod gan Lywodraeth Cymru well hanes o sicrhau buddsoddiad teg ar draws Cymru?
Wel, ni wneir penderfyniadau ynglŷn â buddsoddi cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ar sail ddaearyddol. Ein huchelgais yw buddsoddi yn y prosiectau cyfalaf sy’n darparu’r budd mwyaf i Gymru, ac ansawdd y prosiectau, yn hytrach na’u lleoliad daearyddol, fyddai’r prif ffactor wrth benderfynu ar hynny. Wedi dweud hynny, mae yna syniadau da a phrosiectau da ym mhob rhan o Gymru, a chredaf fod ein cynlluniau cyfalaf, fel y nodwyd yn y gyllideb ddoe, yn dangos y bydd y Llywodraeth hon yn mynd ar drywydd gwaith pwysig sydd i’w wneud a syniadau sy’n haeddu buddsoddiad lle bynnag y bônt.
Iawn, ond a yw hynny’n egluro’r bwlch enfawr a welwn yn ffigurau Ysgrifennydd y Cabinet ei hun—fe’u darparwyd ganddo mewn cwestiwn ysgrifenedig—rhwng gwahanol ranbarthau Cymru? Rhoddaf un enghraifft, gwariant y pen. Mae buddsoddiad cyfalaf Llywodraeth Cymru dros bedair blynedd, y pedair blynedd diwethaf, yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn hanner y ffigur o dros £1,000 y pen ar gyfer de-ddwyrain Cymru. Y flwyddyn nesaf, rhagwelir y bydd yn gostwng i 29 y cant. Ni all unrhyw beth gyfiawnhau bwlch ar y lefel honno. Mae’n rhaid i mi ddweud ein bod, yn y Siambr ddoe, wedi clywed llais dirmygus plwyfoldeb metropolitanaidd yn ymosod ar fy mhlaid am geisio sicrhau rhywfaint, o leiaf, o gonsesiwn, rhywfaint o fuddsoddiad yn y rhanbarthau a’r etholaethau yr ydym yn eu cynrychioli. Nid ydym yn ymddiheuro—[Torri ar draws.] Nid ydym yn ymddiheuro am gydraddoli lefel y buddsoddiad.
Mae’n wleidydd mwy meddylgar na rhai o’i gyd-Aelodau, a chyda llaw, gwelwyd yr agweddau hynny ar feinciau’r Ceidwadwyr hefyd, a chan Aelodau sydd naill ai’n cynrychioli neu’n byw yn ardal fwyaf llewyrchus Cymru. Gofynnaf hyn iddo: a wnaiff ymrwymo i gydraddoli lefel y buddsoddiad ledled Cymru, fel na fydd yn rhaid i fy mhlaid i fod yn gyfrifol am ymladd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, dros sbarion gwaedlyd ar waelod y gasgen?
Wel, Lywydd—. Edrychwch, mae yna bwynt difrifol wrth wraidd yr hyn sydd gan yr Aelod i’w ddweud, sef bod angen i bawb ohonom gydnabod bod angen i bob rhan o Gymru deimlo bod y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn rhoi sylw i’w hanghenion, a bod yr hyn sy’n digwydd yma yn arwain at benderfyniadau lle y gallant weld y budd i’w bywydau. Yr hyn y mae’n anghywir yn ei gylch yw ceisio dweud nad oes gan y penderfyniadau a wnawn unrhyw ddiddordeb yn hynny o beth. Wrth gwrs bod. Dyna pam y gwelwch y buddsoddiadau mawr a welwch ym mhob rhan o Gymru. Nid yw’n syndod fod poblogaeth yn gwneud gwahaniaeth i fuddsoddiad. Mae mwyafrif helaeth poblogaeth Cymru yn byw mewn rhannau penodol o Gymru, ac mae’n anochel y bydd rhai o’r prif fuddsoddiadau’n dilyn hynny, ond mae ef—[Torri ar draws.] Na, na, nid yw’r ffigur y pen yn gwrthbwyso’r hyn rwyf newydd ei ddweud, oherwydd, o’u cronni, bydd y ffigurau gwariant y pen hynny’n arwain at grynhoi buddsoddiad mewn rhannau penodol. Ond os mai’r pwynt difrifol y mae’n ei wneud yw a oes angen i ni sicrhau ein bod yn buddsoddi ym mhob man lle y mae angen gwneud pethau pwysig, a’n bod yn gallu dangos i bobl ledled Cymru ein bod yn ystyried eu hanghenion o ddifrif, ni fuaswn yn anghytuno ag ef ar y pwynt hwnnw.
Yr unig lygedyn o gysur y gallaf fi, fel cenedlaetholwr Cymreig, ei gael o’r math o ffigurau a nodais—sy’n dangos bod arweinyddiaeth y Blaid Lafur, yn anffodus, yn canolbwyntio’n bennaf ar Gaerdydd—yw y dylai un rhan o Gymru, o leiaf, fod yn gwneud yn dda. Ond gwelwn yr un math o gamreoli cronig yma, a gofynnaf iddo, yn ei rôl fel Gweinidog llywodraeth leol: a yw’n ymwybodol o’r ffaith fod yr hollt yng ngrŵp Llafur Caerdydd bellach yn bygwth peryglu’r fargen ddinesig £1.2 biliwn yn ei chyfanrwydd? Beth y mae hynny’n ei ddweud am y model datblygu economaidd rhanbarthol a ffefrir gan Ysgrifennydd y Cabinet, y model cyd-bwyllgor? Os na all y Blaid Lafur weithio ar y cyd â hi ei hun ar un awdurdod, sut y mae’n mynd i weithio’n drawsbleidiol ar draws 10 awdurdod gwahanol hefyd?
Credaf fod cyfeiriad cwestiynau’r Aelod y prynhawn yma yn ei roi mewn perygl o fod yn llai o genedlaetholwr Cymreig na ffracsiwn penodol o genedlaetholdeb Cymreig. Rwy’n hyderus y bydd y pleidleisiau mewn 10 o awdurdodau lleol gwahanol ledled Cymru sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau’r trefniadau llywodraethu a fydd yn ein galluogi i symud ymlaen gyda’r fargen ddinesig, y bydd y pleidleisiau hynny’n cael eu bwrw ac y bydd hynny’n digwydd yn llwyddiannus ar draws de Cymru dros yr wythnosau nesaf.
Llefarydd UKIP, Mark Reckless.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y bore yma nad oedd yn anochel y byddai pwerau codi treth incwm yn cael eu datganoli ac y byddai ei grŵp yn pwyso a mesur hynny dros y penwythnos ac yn penderfynu ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ddydd Llun. Tybed a allai fy helpu i ddatrys anghysondeb ymddangosiadol rhwng y datganiad hwnnw a’r fframwaith cyllidol a arwyddodd ar ran Llywodraeth Cymru, sy’n dweud ym mharagraff 14
‘bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn cynnwys dwy ffrwd ariannu ar wahân yn y pen draw:
Refeniw o ardrethi busnes, trethi datganoledig (treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi) a chyfraddau treth incwm Cymreig;
Cyllid grant bloc wedi’i addasu oddi wrth lywodraeth y DU.’
Dywedodd wrth ein pwyllgor y bore yma ei bod yn bosibl na fydd treth incwm yn cael ei datganoli’n rhannol. Pam, felly, y mae wedi arwyddo dogfen sy’n dweud y bydd cyfraddau treth incwm Cymreig yn cael eu datganoli?
Wel, Lywydd, y gwaith a roddwyd i mi wrth drafod y fframwaith cyllidol oedd negodi fframwaith a fyddai’n addas ar ein cyfer pe bai treth incwm yn cael ei datganoli’n rhannol. Dyna pam y mae’r holl gytundeb hwn wedi’i ffurfio o amgylch y posibilrwydd hwnnw, ond roedd yn amlwg i’r Trysorlys drwy gydol y broses honno mai’r Cynulliad hwn a fyddai’n gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn ag a fyddai Bil Cymru yn derbyn cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad hwn, a phe na bai’r Cynulliad hwn yn rhoi’r cydsyniad deddfwriaethol hwnnw, yna byddai’r fframwaith hwn yn methu o ganlyniad i hynny a byddai’n rhaid ei ailnegodi yn seiliedig ar y ddwy dreth a fyddai’n cael eu datganoli. Ond nid yw’n ddirgelwch o gwbl. Cynlluniwyd y fframwaith hwn ar gyfer y sefyllfa a allai fod ohoni pe bai Bil Cymru yn cyrraedd y llyfr statud, a dyna pam y cyfeirir at ddatganoli treth incwm yn rhannol drwyddo draw.
Ni chredaf y byddai David Gauke, Gweinidog y DU, yn arbennig o falch o glywed ateb Ysgrifennydd y Cabinet, gan ei fod yntau, fel y gwnaethoch chi, wedi arwyddo datganiad sy’n dweud
‘bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn cynnwys...yn y pen draw’ cyn mynd ati i restru gwahanol elfennau, sy’n cynnwys cyfraddau treth incwm Cymreig. Nid oes unrhyw gyfeiriad at gynllun wrth gefn neu amodau gwahanol. Mae’n dweud yn glir iawn y bydd cyfraddau treth incwm Cymreig yn cael eu datganoli. Nawr, disgwylir i ni gredu nad yw’r penderfyniad hwn wedi cael ei wneud eto, ond onid y gwirionedd yw, hyd yn oed cyn y Darlleniad Cyntaf a chyhoeddi Bil Cymru, ac yn benodol, y cymal hwnnw sy’n diddymu’r gofyniad deddfwriaethol am refferendwm cyn cael pwerau codi treth incwm, mewn gwirionedd, a drefnwyd rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, a bod trafodaethau wedi digwydd rhwng y ddwy ochr er mwyn dod i’r casgliad hwnnw cyn i’r broses honno ddechrau hyd yn oed?
Na, credaf fod yr Aelod yn gwbl anghywir. Mae wedi camddeall y broses gyfan yma’n llwyr. Ni fydd Mr Gauke yn synnu at unrhyw beth o gwbl a ddywedais yn fy ateb cyntaf, gan ei fod, ym mhob trafodaeth a gefais gydag ef, yn deall mai rhagamod cyn y buasai’r Cynulliad hwn yn cydsynio i gynnig cydsyniad deddfwriaethol, os mai dyna a wnaiff, fuasai fod yna fframwaith cyllidol boddhaol gerbron y Cynulliad a fuasai’n esbonio’n argyhoeddiadol i’r Aelodau yma sut y buasai’r cysylltiadau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn llywio’r canlyniadau cyllidol, pe bai—pe bai—treth incwm yn cael ei datganoli’n rhannol. Ar y sail bendant honno y lluniwyd y ddogfen hon, a buasai Mr Gauke yn deall hynny, ac yn adleisio hynny, rwy’n credu, pe bai’n sefyll yma y prynhawn yma.
A gall yr Aelodau weld y datganiad clir hwnnw, fel y gall aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, ym mharagraff 14 yn y ddogfen honno. Ond mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthyf fy mod wedi camddeall y broses gyfan, a do, rwyf wedi dod at hyn â llygaid ffres. Ac efallai oherwydd hynny, bu’n rhaid i mi ddibynnu i raddau ar ddogfennau cyhoeddus ac ar sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i bobl Cymru. Rhoddwyd un enghraifft o’r sicrwydd hwnnw ar bapur pleidleisio refferendwm 2011, dim llai na hynny, a ddywedai, pe bai’r canlyniad o blaid datganoli pellach—pleidlais ‘ie’—na fyddai hynny’n arwain at ddatganoli pwerau trethu. Ond yn awr, er gwaethaf yr addewid hwnnw, bydd y pwerau trethu hyn yn cael eu gorfodi ar y cyhoedd yng Nghymru, nad oes arnynt fwy o awydd talu trethi uwch nag sydd arnynt i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Er hynny, bydd ei Lywodraeth yn anwybyddu canlyniad y refferendwm hwnnw yn 2011—y sicrwydd a roddwyd ar y papur pleidleisio—i’r un graddau ag y buasent yn dymuno anwybyddu penderfyniad y Cymry ynglŷn â’n haelodaeth o’r UE.
Wel, os oes gan yr Aelod gweryl, nid gyda mi y mae, ond gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan fod hwn yn benderfyniad a wnaed gan weinyddiaeth Geidwadol yn San Steffan, nid gan unrhyw wleidydd yn y Siambr hon. Ac nid yw’n gywir ychwaith—[Torri ar draws.] Nid yw’n gywir ychwaith yn awgrymu bod Bil Cymru yn darparu ar gyfer codiad awtomatig yn y dreth. Yn syml, mae’n darparu hyblygrwydd newydd i’r Cynulliad Cenedlaethol hwn wneud penderfyniadau yn y maes hwnnw—penderfyniadau a allai arwain at godi rhai trethi, ond a allai arwain yr un mor hawdd at ostwng trethi. Ni fyddai trethi’n codi’n awtomatig o ganlyniad i Fil Cymru, pe bai’r Bil hwnnw’n cyrraedd y llyfr statud.