Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 11 Ionawr 2017.
Yr unig lygedyn o gysur y gallaf fi, fel cenedlaetholwr Cymreig, ei gael o’r math o ffigurau a nodais—sy’n dangos bod arweinyddiaeth y Blaid Lafur, yn anffodus, yn canolbwyntio’n bennaf ar Gaerdydd—yw y dylai un rhan o Gymru, o leiaf, fod yn gwneud yn dda. Ond gwelwn yr un math o gamreoli cronig yma, a gofynnaf iddo, yn ei rôl fel Gweinidog llywodraeth leol: a yw’n ymwybodol o’r ffaith fod yr hollt yng ngrŵp Llafur Caerdydd bellach yn bygwth peryglu’r fargen ddinesig £1.2 biliwn yn ei chyfanrwydd? Beth y mae hynny’n ei ddweud am y model datblygu economaidd rhanbarthol a ffefrir gan Ysgrifennydd y Cabinet, y model cyd-bwyllgor? Os na all y Blaid Lafur weithio ar y cyd â hi ei hun ar un awdurdod, sut y mae’n mynd i weithio’n drawsbleidiol ar draws 10 awdurdod gwahanol hefyd?