<p>Datblygu Trysorlys Cymreig</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 11 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:57, 11 Ionawr 2017

Diolch i chi am eich ateb, a, gobeithio, yn y misoedd i ddod, y byddwch chi’n cyhoeddi lle mae hwn yn mynd i gael ei leoli, oherwydd mae Ysgrifennydd yr economi, wrth gwrs, wedi dweud ei fod e’n edrych ar Wrecsam fel lleoliad posibl ar gyfer y banc datblygu. A fyddech chi’n barod i ystyried Wrecsam fel lleoliad posibl ar gyfer y trysorlys? Oherwydd rŷm ni’n gwybod bod y gweithlu a’r sgiliau yno. Mae HMRC yn cau canolfan yno cyn bo hir, ac felly mae yna sgiliau—mae yna adeilad, hyd yn oed. Mi fyddai modd creu wedyn, wrth gwrs, ‘hub’ ariannol yn y gogledd ddwyrain a fyddai efallai hefyd wedyn yn tanlinellu’r ffaith eich bod chi, fel yr ŷch yn ei ddweud, yn buddsoddi ym mhob rhan o Gymru.