Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 11 Ionawr 2017.
Wel, diolch, wrth gwrs, am y cwestiwn. Clywais i ddoe Sian Gwenllian yn holi’r Prif Weinidog, yn dadlau dros gael pencadlys yr awdurdod yng Nghaernarfon. Wrth gwrs, rydw i wedi derbyn nifer fawr o lythyrau gan Aelodau’r Cynulliad yn trio fy mherswadio i sefydlu’r pencadlys ledled Cymru. Wrth gwrs, rydw i’n deall hynny. Roedd y Prif Weinidog ddoe yn esbonio’r gwaith sy’n mynd ymlaen, ac mae trafodaethau gyda’r undebau hefyd am ble y gallwn ni sefydlu pencadlys Awdurdod Cyllid Cymru. Mae’n fwy na lle, ac mae hynny’n bwysig yn y ddadl hefyd. Bydd yn rhaid, fel y dywedodd y Prif Weinidog, recriwtio pobl gyda sgiliau arbennig mewn nifer o feysydd, a bydd hynny’n rhan o’r penderfyniad pan fyddaf i’n gallu ei wneud e.