<p>Datblygu Trysorlys Cymreig</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 11 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:59, 11 Ionawr 2017

Ysgrifennydd Cabinet, mae’r ail adroddiad blynyddol ynghylch cyflwyno a gweithredu Rhan 2 o Ddeddf Cymru 2014 yn ei gwneud hi’n glir bod ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi canolbwyntio’n bennaf ar bobl broffesiynol a grwpiau arbenigol technegol hyd yn hyn. Felly, yn yr amgylchiadau, a allech chi ddweud wrthym ni ychydig mwy am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo’r trysorlys Cymreig yn ehangach i’r cyhoedd yng Nghymru, fel bod pawb yn ymwybodol o’u rôl a’u cyfrifoldebau, ac nid yn unig gweithwyr proffesiynol treth?