<p>Portffolio’r Amgylchedd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 11 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:04, 11 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn falch iawn o’ch clywed yn cyfeirio yn y ddadl ddoe ar y gyllideb derfynol at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ond mae’n rhaid i mi ddweud, pan oedd cyllideb yr amgylchedd gerbron y pwyllgor, roedd yn ymddangos i mi, wrth i ni graffu ar linell y gyllideb, fod y Ddeddf wedi’i defnyddio lawer mwy i ddehongli’r gyllideb bresennol yn hytrach na’i siapio. Yn y dyfodol, gobeithiaf y byddwn yn gallu gweld sut y mae gwahanol linellau’n amrywio ac yn mynd i fyny ac i lawr, a rhaglenni’n dod i ben neu’n cael eu hehangu, mewn perthynas â’r blaenoriaethau yn yr hyn sy’n Ddeddf ddefnyddiol iawn yn fy marn i.