Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 11 Ionawr 2017.
Mewn gwirionedd, sefydlodd fy rhagflaenydd, Huw Lewis, grŵp gorchwyl a gorffen i edrych ar fater gwaith cyflenwi. Mae gwaith y grŵp hwnnw wedi dod i ben. Anfonwyd yr adroddiad ataf yn ddiweddar. Rwy’n ystyried cynnwys yr adroddiad hwnnw a’r ffordd ymlaen, ac rwy’n hapus iawn bob amser i gyfarfod â llefarwyr y gwrthbleidiau, neu bobl o feinciau cefn y pleidiau gwleidyddol eraill yn wir, i siarad am unrhyw syniadau da sydd ganddynt i fynd i’r afael â’r broblem hon. Mae gwaith cyflenwi yn fater pwysig. Rydym yn gwybod ei bod yn gwbl angenrheidiol cael athrawon cyflenwi mewn ystafelloedd dosbarth o bryd i’w gilydd, ond mae angen gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu hyfforddi’n dda, eu bod yn cael eu talu’n iawn, fod materion diogelu plant priodol wedi cael sylw, ac nad effeithir ar ddysgu plant yn sgil cael athro cyflenwi yn yr ystafell ddosbarth, a gellir goresgyn hynny drwy gynllunio ac arweinyddiaeth wych yn yr ysgolion unigol.