Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 11 Ionawr 2017.
Ar ddiwedd 2015, dywedodd y Llywodraeth Lafur,
Mae’n bwysig cofio nad yw cyflogi athrawon cyflenwi ymhlith y pwerau sydd wedi’u datganoli ar hyn o bryd i Lywodraeth Cymru, sy’n golygu na allwn osod cyfraddau tâl neu orfodi awdurdodau lleol i weithredu cronfeydd o athrawon cyflenwi.
Pe bai’n cael y pwerau hyn fel rhan o ddatganoli pellach, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gosod set o reolau i ysgolion ar gyfer ymdrin â mater athrawon cyflenwi?