Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 11 Ionawr 2017.
Ers i mi fod yn Weinidog yr unig oedi sydd wedi bod oedd oedi ar gais Plaid Cymru er mwyn newid y safonau a roddwyd gerbron y Cynulliad ar gyfer addysg uwch. Rwy’n derbyn eich pwynt ond rwy hefyd yn gwbl glir: nid oes unrhyw ewyllys i arafu nac i beidio â gweithredu’r ddeddfwriaeth. Ond, nid wyf yn credu mai deddfwriaeth yw’r math o fframwaith deddfwriaethol a fydd ei angen ar gyfer y dyfodol. Rwy eisiau sicrhau bod gennym ni ddeddfwriaeth a fydd yn sicrhau bod gennym ni ffordd o weithredu polisïau i gefnogi’r Gymraeg lle bynnag rydym ni eisiau defnyddio’r Gymraeg, a byddaf yn gwneud hynny trwy Bapur Gwyn yn y gwanwyn.