<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 11 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:43, 11 Ionawr 2017

Rydych yn sôn yn fanna am weithredu ac mae’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn ffordd o weithredu. Mae’r rhain rŵan wedi cael eu cyflwyno gan holl awdurdodau addysg Cymru, ond yn ôl y sôn, maen nhw’n siomedig, a dweud y lleiaf. Nid oes rhaid i mi eich atgoffa chi pa mor allweddol bwysig ydy cynyddu addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd yr uchelgais o 1 miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Cafodd hyn ei bwysleisio eto heddiw gan Gomisiynydd y Gymraeg a oedd hefyd yn galw am newid radical i’r system addysg os ydy’r nod i’w gyflawni.

Sut felly ydych chi am gefnogi’r awdurdodau addysg hyn i gryfhau’r cynlluniau o ble y maen nhw ar hyn o bryd? A wnewch chi ystyried rhoi rôl i Estyn, wrth iddyn nhw arolygu awdurdodau addysg, fel efallai bod rôl iddyn nhw fonitro a chynyddu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg fel rhan o’u gwaith nhw?