<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 11 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:44, 11 Ionawr 2017

Rwy’n hapus iawn i ystyried rôl i Estyn pe bai hynny o gymorth inni yn ystod y broses yma. A gaf i ddweud hyn amboutu’r cynlluniau strategol? Rydym ni wedi derbyn y cynlluniau fan hyn ac rwy’n ystyried y cynlluniau ar hyn o bryd. Pan fyddaf wedi cael cyfle i edrych arnynt yn fanwl, a phan rwy’n teimlo fy mod i’n barod i wneud hynny, byddaf yn gwneud datganiad ar sut rydym yn mynd i symud ymlaen. Rwy’n gobeithio fy mod i’n mynd i fod mewn sefyllfa i wneud hynny yn ystod y mis nesaf.