<p>Consortiwm Addysg Ardal Abertawe </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 11 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:45, 11 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, Mike, fe fydd yn bwysig adolygu’r model cenedlaethol ar gyfer gwaith rhanbarthol yng ngoleuni unrhyw gyhoeddiadau y bydd fy nghyd-Aelod Cabinet, Mark Drakeford, yn eu gwneud mewn perthynas â diwygio llywodraeth leol. Bydd yn bwysig edrych ar statws cyfredol y consortia addysgol rhanbarthol a sut y gallwn fynd ati yn y ffordd orau i barhau i ddarparu gwasanaethau gwella ysgolion, ac a oes yna agweddau eraill ar addysg mewn gwirionedd y gellid eu cyflawni’n fwy effeithiol a strategol drwy awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd. Fel y dywedais, byddaf yn gweithio’n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod llywodraeth leol wrth i’r Llywodraeth hon ddatblygu ei rhaglen ddiwygio llywodraeth leol i sicrhau bod rôl consortia addysg yn cyd-fynd yn agos â’r gwaith hwnnw.