Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 11 Ionawr 2017.
Diben ERW yw darparu un gwasanaeth gwella ysgolion proffesiynol, cyson ac integredig. Pa dystiolaeth y mae ERW wedi’i rhoi i chi ei fod wedi gwella addysgu a dysgu ieithoedd tramor modern? Ac os ydych yn gallu cymryd y cwestiwn hwn, pa dystiolaeth y mae wedi’i rhoi i chi ei fod yn gwella addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn Abertawe, gan helpu i greu ymagwedd fwy cadarnhaol mewn ysgolion ac yn yr awdurdod lleol tuag at yr iaith Gymraeg ?