Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 11 Ionawr 2017.
Diolch. Mae 1,005 o ddisgyblion bellach wedi’u cofrestru mewn unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru, ac mae nifer y disgyblion yn cynyddu ym mhob grŵp oedran o tua 11 i 15. Mae dros 51 y cant o’r rhai a gofrestrwyd mewn un UCD a thros 40 y cant a gofrestrwyd yn ddeublyg oddeutu 15. Nawr, rwy’n gwybod o fy mhrofiad fy hun yn fy etholaeth, lle rwy’n ymdrin ag achosion, fod unedau cyfeirio disgyblion weithiau’n ymddangos yn gyfyngol—nid ydynt yn ymddangos yn gynhwysol, ac mae plant yn teimlo eu bod wedi’u cau allan o’r system addysg. Sut rydych yn gweithio gydag awdurdodau addysg o ran adnoddau fel y gallwn gael system addysg fwy cynhwysol yng Nghymru, system sy’n cydnabod cryfderau, gwendidau ac uchelgeisiau ein holl blant yn y gymdeithas heddiw ac sy’n caniatáu iddynt deimlo’n rhan o’n system addysg prif ffrwd, ac sy’n caniatáu iddynt gael eu haddysgu gyda’u ffrindiau a’u cyfoedion?