<p>Ymgysylltiad Disgyblion â’r System Addysg </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 11 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:56, 11 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a fyddech yn cytuno bod ymdrechion i ennyn diddordeb disgyblion yn gwella’n fawr os yw rhieni a’r gymuned ehangach yn ymwneud yn agos â’u hysgolion lleol, ac os felly, a wnewch chi weithio i ddyfeisio mecanwaith neu system y gallwn ei defnyddio i fod yn hyderus y bydd ysgolion o ansawdd da sy’n canolbwyntio ar y gymuned yn cael eu darparu gyda chysondeb ar draws Cymru.