Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 11 Ionawr 2017.
Ie, rydw i’n cytuno. Llaw fer, efallai, oedd ‘gweithio’; rŷch chi’n berffaith iawn i fy nghywiro i a diolch am hynny.
Wrth gwrs, roedd y ‘tier 1 post-study work visa’ a gafodd ei ddiddymu yn 2012 yn caniatáu i fyfyrwyr rhyngwladol aros am ddwy flynedd ychwanegol ar ôl graddio, ac mae prifysgolion ledled y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru yn gefnogol i hynny ddigwydd. Mi fyddai cynllun fel hyn, wrth gwrs, o fudd i’r economi, gan alluogi myfyrwyr talentog i aros yma gyda ni.
Mae cynllun peilot, wrth gwrs, ar hyn o bryd yn caniatáu i bedwar prifysgol yn Lloegr gymryd mwy o gyfrifoldeb dros wirio cymwysterau darpar-fyfyrwyr am fisa ‘tier’ 4. Fel rhan o’r cynllun, mae myfyrwyr cymwys yn cael aros yn y wlad am chwe mis ar ôl graddio er mwyn dod o hyd i waith, ac wedyn ceisio am fisa ‘tier’ 2, ond mae’r cynllun hwnnw’n bell o fod cystal â’r un a oedd gennym ni’n flaenorol. Mae Plaid Cymru hefyd, wrth gwrs, wedi galw am system o fisas Cymreig a fyddai’n galluogi Cymru i gyhoeddi ei thrwyddedau astudio ei hun yn lle bod yna risg o San Steffan yn gweithredu fel rhyw rwystr yn y cyd-destun yma, rhwng Cymru a’r byd, ac wrth gwrs, mae’n rhywbeth wnaeth y grŵp pob plaid ar integreiddio cymdeithasol yn San Steffan ei amlygu’r wythnos diwethaf hefyd.
Yn olaf, wrth gwrs, mae angen dileu myfyrwyr rhyngwladol o dargedau mudo net y Deyrnas Unedig, ac erbyn hyn, mae unigolion fel George Osborne a Boris Johnson wedi datgan y bydden nhw o blaid hynny. Mi ddatgelodd arolwg barn diweddar gan Universities UK nad yw mwyafrif o’r cyhoedd yn ystyried myfyrwyr rhyngwladol fel mewnfudwyr—75 y cant yn croesawu niferoedd uwch o fyfyrwyr rhyngwladol a 91 y cant yn meddwl y dylai fod hawl ganddyn nhw i aros yn y Deyrnas Unedig i weithio ar ôl graddio. Felly, mae yna lawer i’w wneud, ond yr hyn, wrth gwrs, sy’n ddi-gwestiwn yw bod myfyrwyr o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig yn gwneud cyfraniad diwylliannol academaidd ac economaidd pwysig a sylweddol iawn i Gymru, ac mae angen gwarchod a chryfhau hynny, yn fy marn i. Mae’n rhaid i San Steffan beidio â bod yn rhyw fath o rwystr, fel yr oeddwn i’n ei ddweud, rhwng Cymru a’r byd. Mi allwn ni anfon neges ynglŷn â rhai o’r pethau y bydden ni am eu gwneud o’r Siambr y prynhawn yma drwy gefnogi’r cynnig yma heddiw.