7. 7. Dadl Plaid Cymru: Sector Addysg Uwch Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 11 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 5:09, 11 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy sicrhau David Melding na fyddaf fi, yn un, byth yn diflasu ar eich defnydd o’r gair Ff—ffederaliaeth—yma yn y Siambr hon, David? A gaf fi ddiolch hefyd i Blaid Cymru am gyflwyno’r cynnig y prynhawn yma ac am y nifer fawr o gyfraniadau gwerthfawr gan yr Aelodau? Mae’r ddadl wedi rhoi cyfle i ni drafod a chydnabod rôl hanfodol bwysig y sector addysg uwch yng Nghymru.

Mae ein sefydliadau yn asedau cenedlaethol sy’n cael eu parchu’n fawr ledled y byd, ac mae’n bwysig ein bod yn rhoi amser i gydnabod y cyfraniad sylweddol y maent yn ei wneud i’n lles economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Rwyf wedi ymrwymo i lwyddiant lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ein prifysgolion. Felly, y prynhawn yma, bydd y Llywodraeth yn cefnogi’r cynnig. Rwyf fi a fy nghyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag arweinwyr prifysgolion a chymheiriaid yn Llywodraethau eraill y DU i hyrwyddo buddiannau ein sefydliadau addysg uwch yn y DU, yr UE, ac yn y cyd-destun byd-eang. Mae hyn yn cynnwys, er nad yw’n gyfyngedig i ymchwil, arloesi a symudedd myfyrwyr.

Rydym yn rhannu’r safbwyntiau a fynegwyd gan nifer o’r Aelodau yma heddiw y dylai myfyrwyr, ymchwilwyr ac academyddion barhau i allu cael mynediad at fanteision cydweithio rhyngwladol a chynlluniau cyfnewid a’r ffynonellau cyllid pwysig y mae rhaglenni’r UE yn eu darparu. Ni fydd y Llywodraeth, felly, yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, sy’n gwanychu’r ymrwymiad i fynd ar drywydd y canlyniad gorau posibl i Gymru a sefydliadau addysg uwch Cymru o’r trafodaethau Brexit sydd i ddod.

Mae addysg uwch yn rhan annatod o’n synnwyr o hunan, ein hymdeimlad o hanes ac ymchwil, a’n lle yn y byd. Mae ein prifysgolion a’n colegau yn hyfforddi ein hathrawon, ein meddygon, ein nyrsys, ein hieithyddion, ein hartistiaid a’n peirianwyr a’r rhai sy’n gallu ysbrydoli a hyfforddi eraill i gyrchu eu nodau ac i wireddu eu breuddwydion. Ond er cymaint rwy’n hyrwyddo addysg uwch yng Nghymru, mae hefyd yn ddyletswydd arnaf i herio a chymell is-gangellorion a chadeiryddion weithiau. Rwyf wedi siarad o’r blaen am yr angen i’n sefydliadau gydnabod eu cenhadaeth ddinesig a’u pwysigrwydd i gymdeithas. Rwyf am iddynt adfer eu rolau fel stiwardiaid cymuned, dinas a gwlad. Dylent berthyn i’w hardal ac i’w pobl. O’r stiwardiaeth hon y bydd prifysgolion yn cyflawni eu rolau a’u cyfrifoldebau cenedlaethol, dinesig a rhyngwladol a’n gwaith ni felly, fel Llywodraeth, yw rhannu’r risgiau a’r manteision sy’n deillio o fuddsoddi, diwygio polisi ac anghenion sgiliau yn y dyfodol.

Nawr, mae yna lawer o heriau eraill yn wynebu’r sector, ond maent yn debyg i’r sectorau allweddol eraill sy’n wynebu’r ansicrwydd yn sgil Brexit, y dull marchnadeiddio a ffefrir gan y Llywodraeth yn Lloegr, a thueddiadau economaidd a chymdeithasol ehangach. Wrth gwrs, mae yna hefyd lawer o gyfleoedd, a bydd ein hymateb i Diamond yn cyflwyno cyfundrefn ariannu sefydlog a chynaliadwy a system eang o gymorth i fyfyrwyr a fydd y gyntaf o’i bath yn y DU ac o bosibl, y gyntaf yn Ewrop. Rwyf hefyd yn ystyried yr adroddiad ar systemau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru a gyflwynwyd gan yr Athro Hazelkorn y llynedd. Rwy’n bwriadu cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn fuan.

Mae’r bleidlais i adael yr UE yn cyflwyno heriau penodol i’r sector addysg uwch, ac nid yw popeth o fewn pwerau Llywodraeth Cymru. Felly, ychydig cyn y Nadolig, cynhaliodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth a minnau gyfarfod gyda’r pedwar Gweinidog addysg uwch ar draws gweinyddiaethau’r DU. Er bod pob un ohonom yn cynrychioli gwahanol Lywodraethau, gwledydd, a phleidiau gwleidyddol yn wir, rwy’n falch o ddweud ein bod wedi gallu dod o hyd i dir cyffredin, yn enwedig ar faterion rhyngwladol yn ymwneud ag addysg uwch. Rwy’n awyddus i ddatblygu cydweithredu ar lefel y DU gyfan fel hyn a’r modd y gall pob Llywodraeth weithio gyda’i gilydd a chyda’n sectorau. Rwy’n hyderus y gallwn gynorthwyo ein prifysgolion yn well wedyn i barhau â chysylltiadau a chyfleoedd ar draws y DU a chyda phartneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â meithrin cysylltiadau a chyfleoedd newydd.

Fel y dywedwyd y prynhawn yma, mae’n hanfodol cofio bod ein prifysgolion yn gweithredu mewn sector rhyngwladol tra chystadleuol. Mae sefydliadau ledled y DU, Ewrop, ac o amgylch y byd yn cystadlu am fyfyrwyr, staff a chyfleoedd ymchwil. Felly, wrth i ni barhau i hyrwyddo a diogelu sefydlogrwydd a chynaliadwyedd ein sector, rhaid i Lywodraeth y DU hefyd—rhaid iddynt—gydnabod, er eu bod yn treulio’r mwyafrif llethol o’u hamser addysg uwch yn meddwl am Loegr a materion Seisnig, fod ganddynt gyfrifoldeb ledled y DU hefyd mewn perthynas â materion rhyngwladol ac ariannu ymchwil. Mae angen i bedair llywodraeth y DU gydweithio ar faterion o’r fath, sy’n tanlinellu ymhellach yr angen am gynrychiolaeth ar draws y DU ar fwrdd newydd Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig. Yn syml iawn, nid yw’n gwneud synnwyr i’n gwlad droi cefn ar y cyfleoedd ariannu a gyflwynwyd gan Horizon 2020. Ni yw’r wlad sy’n derbyn fwyaf o’r cronfeydd hynny ar ôl yr Almaen, ac fe gofiwn hefyd pa mor bwysig y mae cronfeydd strwythurol wedi bod i’r sector addysg uwch yng Nghymru.

Nawr, roedd y rhai a ymgyrchodd dros adael yr UE, a’r rhai a gafodd eu perswadio gan yr ymgyrch honno, yn gwneud hynny ar yr addewid na fyddai er anfantais i Gymru, ac rwy’n credu bod gennym hawl i bob ceiniog o arian y cronfeydd strwythurol sydd wedi dod i’r wlad hon ac sydd wedi cynorthwyo ein sefydliadau yng Nghymru i fod yr hyn ydynt heddiw.

Mae’r cynnig heddiw yn cydnabod: yn gyntaf, pa mor bwysig yw hi i’n sefydliadau addysg uwch yng Nghymru gymryd rhan yn rhaglenni’r UE a chael cyllid o’r UE, yn ogystal â phwysigrwydd myfyrwyr a staff rhyngwladol; ac yn ail, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU am sicrhau nad yw’r sector addysg uwch yn cael ei niweidio o ganlyniad i’w hymagwedd at bolisi mewnfudo a’r UE.

Gadewch i mi fod yn gwbl glir, Lywydd: mae Cymru yn croesawu myfyrwyr a staff o bob rhan o Ewrop ac ar draws y byd. Mae ein prifysgolion a’n cymunedau yn elwa o’r amrywiaeth honno, a’r egni hwnnw. Mae ein myfyrwyr ein hunain yn elwa ar gyfleoedd fel Erasmus sydd wedi gadael iddynt rannu eu profiadau ar draws Ewrop. Byddaf fi a’r Llywodraeth hon yn gwneud popeth a allwn i gefnogi dyfodol cyfleoedd ac ymagwedd agored o’r fath yn y sector. Mae’n warthus nad oes cyfleoedd fisa ar ôl gwaith wedi bod ar gael i fwy na phedwar lle yn Lloegr heb unrhyw ymgynghori naill ai â’r Llywodraeth hon na Llywodraeth yr Alban. Rhaid tynnu niferoedd myfyrwyr o’r ffigurau mewnfudo ac ymfudo, ac ni ddylid cysylltu fisâu â’r fframwaith rhagoriaeth addysgu sydd ar y ffordd. Buasai’n drychinebus.

Mae’r cynnig yn nodi meysydd pwysig lle y mae prifysgolion angen i Lywodraeth y DU roi camau ar waith a fydd yn diogelu cynaladwyedd y sector yn y dyfodol. Gall Llywodraeth Cymru gefnogi’r achos hwnnw a chefnogi’r cynnig. Diolch.