Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 11 Ionawr 2017.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy’n cynnig y cynnig yn fy enw ar yr agenda. Rwy’n falch iawn o weld bod y Prif Weinidog wedi dod i’r ddadl heddiw. Cawsom rywfaint o ragflas ddoe yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog, gan nad oeddwn wedi rhagweld y byddai’n cymryd rhan yn y ddadl hon, ond croesawaf ei bresenoldeb yn fawr. Ond ddoe nodais efallai nad Norwy yw’r model gorau y gallem ei ddilyn o ran y trefniadau y byddwn yn ceisio eu rhoi ar y gweill gyda’r UE yn dilyn Brexit. Er bod Norwy a’i phobl wedi bod yn gadarn yn erbyn dod yn aelod o’r UE, o’r refferendwm cyntaf yn ôl ym 1972, mae sefydliad gwleidyddol Norwy yn arddel safbwynt cwbl wahanol. I’r graddau hynny, mae’n debyg, ceir peth tebygrwydd i’r sefydliad gwleidyddol yng Nghymru, oherwydd pleidleisiodd pobl Cymru yn go bendant o blaid gadael yr UE, ond yn anffodus, nid yw Plaid Cymru a’r Blaid Lafur i’w gweld yn cynrychioli’r farn honno mewn unrhyw ddull na modd.
Byddai’r trefniant Norwyaidd, wrth gwrs, mewn sawl ffordd hyd yn oed yn waeth na’r hyn sydd gennym yn awr am fod Norwy yn derbyn y rhwymedigaethau o fod yn rhan o Schengen, sy’n golygu, i bob pwrpas, fod mynediad cwbl ddilyffethair i Norwy o ran ymfudo. O dan gyfraith yr UE, ceir rhyddid i symud; dyna un o’r pedwar rhyddid sylfaenol allweddol y mae’r UE wedi’u sicrhau. Pan oedd aelodau’r UE, ar yr un lefel o ffyniant economaidd yn fras, nid oedd hynny’n achosi llawer o broblem mewn gwirionedd, ond achoswyd problemau sylweddol wrth ehangu’r UE i gynnwys economïau sydd gryn dipyn yn dlotach nag economïau gorllewin Ewrop. Rwy’n credu y byddai’n ffôl i ni wadu bod hyn wedi creu pryder cyhoeddus eang ac felly, mae’r awydd i adennill rheolaeth ar ffiniau rhyngwladol y DU yn gwbl ganolog i benderfyniad y refferendwm. Byddai ceisio symud yn ôl tuag at y sefyllfa sydd gennym yn awr drwy ein haelodaeth o’r AEE i bob pwrpas yn llyffetheirio ac yn gwadu’r dymuniad a fynegwyd gan bobl Prydain.
O leiaf yn y cyswllt hwn, mae Plaid Cymru yn onest ac yn agored. Maent yn gwrthod effaith canlyniad y refferendwm. Nid yn unig eu bod o blaid bod yn rhan o’r AEE, ond mewn gwirionedd, maent o blaid bod yn rhan o undeb tollau’r UE. O ran y Blaid Lafur, nid oes gennym unrhyw syniad beth yw eu polisi mewnfudo, ac mae gennym eiriau dirprwy arweinydd y Blaid Lafur ei hun ar hynny. Ddydd Sul fe ddywedodd nad oedd yn gwybod beth yw polisi’r Blaid Llafur. Ymddengys mai ‘left leg in, left leg out, and shake it all about’ ydyw. Mae ganddynt ryw fath o bolisi ‘hokey-cokey’ ar hyn. Mae Jeremy Corbyn wedi dweud nad ydynt o reidrwydd wedi ymrwymo i ryddid i symud, ond nid ydynt yn ei ddiystyru. Dyna yw polisi cyfredol y Blaid Lafur yn ôl yr hyn a ddeallaf. Ond yn sicr nid dyna y mae’r rhan fwyaf o bleidleiswyr Llafur a’r rhai a bleidleisiodd i Lafur o’r blaen yng Nghymru ei eisiau.
Mae Norwy, wrth gwrs, yn achos rhyfedd iawn yn economaidd oherwydd ei bod yn economi sy’n dibynnu’n helaeth ar olew. Maent yn talu i’r UE fel rhan o drefniadau’r AEE—£400 miliwn y flwyddyn. Un o fanteision gadael yn llwyr yw y byddwn yn rhoi’r gorau, unwaith ac am byth, i gyfrannu at gyllideb yr UE a bydd yr arian hwnnw ar gael i’w wario ar bethau eraill ym Mhrydain. Rydym newydd gael dadl ar addysg uwch. Un o’r pethau y gallem wario cyfran o’r arian hwnnw arno yw addysg uwch. Mae Norwy, wrth gwrs, yn dibynnu llawer mwy ar fasnach yr UE na Phrydain; mae 80 y cant o’i hallforion yn mynd i’r UE. Maent yn mwynhau gwarged o £10 biliwn y flwyddyn gyda’r UE. Mae Prydain, ar y llaw arall, yn dioddef diffyg masnach sylweddol iawn gyda’r UE—£60 biliwn y flwyddyn, ar hyn o bryd. Oherwydd ein bod yn gwerthu cyfran lawer llai o’n hallforion, llawer llai na 50 y cant bellach, i’r UE—ac mae wedi bod yn gostwng yn eithaf cyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf—ac oherwydd bod gennym ddiffyg masnach enfawr gyda’r UE, mae gennym safbwynt negodi llawer mwy a llawer gwell nag y byddai’n bosibl i Norwy, sy’n economi fach iawn o 5 miliwn o bobl, ei gael.
Y dewis arall yw’r trefniant y mae De Corea wedi ei negodi gyda’r UE: cytundeb masnach rydd a roddwyd mewn grym bum mlynedd yn ôl. De Corea yw’r unfed ar ddeg economi fwyaf yn y byd, ac mae’n economi sy’n ehangu, yn wahanol i’r UE, sy’n economi sy’n crebachu. O ganlyniad i Brexit, rydym eisoes wedi cychwyn trafodaethau gydag Awstralia, Tsieina, India, Seland Newydd, Norwy, a’r chwe aelod o Gyngor Gwladwriaethau Arabaidd y Gwlff, sy’n un o brif gyrchfannau allforio Cymru. Mae Wilbur Ross, aelod o weinyddiaeth Trump, wedi dweud y bydd cytundeb rhwng yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig yn un o’u prif flaenoriaethau. Mae’r Unol Daleithiau yn farchnad allforio bwysig iawn i Brydain. Rydym yn allforio gwerth £36 biliwn o nwyddau y flwyddyn iddynt. Nid yw’n ofynnol i ni fod yn rhan o’r farchnad sengl â’r Unol Daleithiau er mwyn allforio’r swm aruthrol hwnnw iddynt. Y tu allan i’r UE, byddwn yn parhau i fod yn farchnad allforio fawr i wledydd yr UE, a byddent yn ffôl i fod eisiau gosod unrhyw rwystrau ar eu gallu i allforio i ni, yn enwedig yr Almaen. Rydym yn allforio gwerth oddeutu £35 biliwn o nwyddau y flwyddyn i’r Almaen. Maent yn allforio gwerth £77 biliwn y flwyddyn i ni. Felly, mae gennym ddiffyg masnach arwyddocaol iawn gyda’r Almaen. Nid wyf yn ddiffyndollwr, ac yn bendant nid wyf yn fercantilydd. Nid wyf yn credu y dylem anelu at gael cydbwysedd masnach absoliwt â phob gwlad y gwnawn fusnes â hwy. Dylem fasnachu er mwyn sicrhau’r fantais fwyaf i’r ddwy ochr, ac mae masnach yn gweithio’r ddwy ffordd. Serch hynny, o ran y trafodaethau ynglŷn â’r berthynas fasnachu fydd gennym yn y dyfodol gyda’r UE, yn sicr bydd gan wledydd fel yr Almaen lais sylweddol iawn ynddynt. Bydd manteision parhau i fasnachu’n ddilyffethair â Phrydain yn amlwg i bawb eu gweld. Yn wir, mae Cecilia Malmström, comisiynydd masnach yr UE yng nghyd-destun y cytundeb masnach â De Corea, wedi dweud y dylai tystiolaeth llwyddiant y cytundeb hwnnw helpu i argyhoeddi’r rhai nad ydynt wedi’u hargyhoeddi bod Ewrop yn elwa’n fawr o fwy o fasnach rydd. Mae’n sbarduno twf Ewropeaidd, ac mae’n diogelu ac yn creu swyddi.
Dyna’r ysbryd wrth i ni anelu tuag at y newid yn y berthynas newidiol rhwng Prydain—a Chymru o fewn Prydain wrth gwrs—a’r Undeb Ewropeaidd. Felly, rydym yn cloi ein cynnig drwy ddweud ein bod yn cefnogi safbwynt negodi cyffredinol Llywodraeth y DU wrth iddi geisio cymaint â phosibl o fasnach rydd gyda’r UE, ond yn gyson â rheolaeth gadarn ar fewnfudo. Gan mai’r DU yw’r bumed economi fwyaf yn y byd, a bod gennym £60 biliwn y flwyddyn o ddiffyg masnach gyda’r UE, ‘does bosibl nad yw synnwyr cyffredin yn ogystal â chryfder gwleidyddol ar ein rhan yn mynnu y dylem allu negodi canlyniad eithaf da i bawb. Byddai’n bendant yn achos o dorri’ch trwyn i sbeitio’ch wyneb pe bai biwrocratiaid ym Mrwsel yn ceisio rhwystro dymuniadau pobl Prydain i barhau i gael mynediad dilyffethair at y farchnad sengl heb fod yn aelod ohoni.
Ond dylem gofio bod 85 y cant o economi’r byd y tu allan i’r UE, ac er y diffyg twf yn ein masnach â’r UE, mae’n tyfu’n gyflym iawn gyda rhannau eraill o’r byd. Nid yw’r farchnad sengl o reidrwydd y rhodd fwyaf a fu erioed i ddynoliaeth. Rwy’n cofio pan oeddwn yn Weinidog y farchnad fewnol yn Llywodraeth Major mai’r ymagwedd sylfaenol yr oedd yn rhaid i mi ei mabwysiadu bob amser wrth bennu safbwynt negodi oedd ceisio’u hatal rhag gwneud pethau a oedd yn mynd i niweidio economi Prydain ac economi Ewrop yn ogystal. Newidiodd Jacques Delors holl bwyslais yr UE yn ôl yn y 1980au pan oedd proses y farchnad sengl, a ddechreuwyd gan Lywodraeth Thatcher, yn cael ei llunio. Ein safbwynt ni oedd y dylem gael y rhyddid mwyaf posibl wrth gyfnewid masnach, ond peidio â datblygu rhyw fath o god rheoliadol cyffredinol o gyfreithiau i’w gosod ar bawb o’r canol. Nid oedd hynny’n angenrheidiol, ac oherwydd ei fod wedi dilyn y llwybr hwnnw y mae’r UE wedi aros yn ei unfan yn y byd o gymharu â gwledydd eraill dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Felly, yr hyn y pleidleisiodd pobl Prydain drosto, a’r hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto fis Mehefin diwethaf yn y refferendwm oedd parhau â’r fasnach fwyaf rhydd sy’n bosibl â’r UE. Mae’n gyrchfan masnach pwysig i Gymru—ni ellir gwadu hynny—ond penderfynodd pobl Cymru fod cael hynny ar gost rhyddid pobl i symud, heb unrhyw fath o gyfyngiad ystyrlon, yn bris rhy fawr i’w dalu. Felly, mae ein cynnig yn cysoni’r ddwy elfen bwysig hon yn y ddadl, ac rydym yn aros i glywed gan y Prif Weinidog a chan Lafur fel plaid sut yn union y maent yn mynd i barchu canlyniad y refferendwm, fel y maent yn dweud o hyd eu bod yn awyddus i’w wneud, ar y naill law, ond ar y llaw arall i gysoni hynny â’u methiant i ddatgan i ni pa fath o reolaethau mewnfudo y maent yn barod i’w gweld o ganlyniad i’r newidiadau a fydd yn awr yn cael eu gwneud. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at glywed rhywfaint o eglurhad ar hynny efallai gan y Prif Weinidog heddiw.