Part of the debate – Senedd Cymru ar 11 Ionawr 2017.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy.
2. Yn nodi bod Norwy yn aelod o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mynediad llawn a dilyffethair i’r Farchnad Sengl Ewropeaidd, drwy aelodaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a/neu’r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd.