Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 11 Ionawr 2017.
Mae dros 40 y cant o’n masnach yn mynd i’r UE; dyna yw’n ein marchnad fwyaf. Fel rwy’n dweud, gwae i ni chwarae o gwmpas â hynny. Efallai nad yw rhai busnesau bach a chanolig yn masnachu’n uniongyrchol gyda’r UE, ond maent yn masnachu gyda chwmnïau mwy o faint sy’n masnachu gyda’r UE, a bydd unrhyw effaith ar y cwmnïau mwy o faint hynny, fel Tata, er enghraifft, fel Ford, yn effeithio ar y gadwyn gyflenwi gyfan. Os edrychwch ar gynllun injan Ford yn fy etholaeth i, mae pob injan yn cael ei hallforio—pob un. Nid oes marchnad ddomestig ar gyfer yr injans hynny. Rhaid i ni fod yn ofalus nad ydym yn colli’r manteision, yn economaidd, sydd gennym yn awr.
Gyda mewnfudo, rwyf wedi dweud o’r blaen ac rwy’n mynd i ddal ati i ddweud na fydd y DU yn rheoli ei ffiniau ei hun. Ni allwch reoli ffiniau’r DU oni bai eich bod yn barod i weld ffin galed yn Iwerddon—nid oes ffordd arall o’i wneud—a derbyn y gwrthdaro a’r helbul a fydd yn digwydd yn sgil hynny. Os ydych am ddod i mewn i’r DU, dim ond mynd i Iwerddon fydd angen i chi ei wneud. Gallant gerdded i mewn i’r DU; ni fydd unrhyw reolaeth ar fewnfudo, dim rheoli ffiniau o gwbl. Felly, y gwir amdani yw na all y DU reoli ei ffin yn y modd y byddai rhai am ei weld.
Nawr, mae’n iawn dweud—ac rwy’n credu bod hyn yn gywir—fod pobl yn pryderu am y system bresennol o ryddid i symud. Rwy’n derbyn y pwynt hwnnw. Rhoddodd pobl sawl barn i mi ar garreg y drws: nid oedd rhai pobl yn dymuno gweld mewnfudo o gwbl; roedd rhai pobl yn awyddus i roi cic allan i fewnfudwyr—rwy’n derbyn mai lleiafrif bach o bobl ydynt; ond roedd llawer o bobl yn pryderu am resymau gwahanol am y rhyddid i symud. Fy nghynnig i yw ein bod yn ystyried gwneud yr hyn y mae Norwy yn ei wneud yn barod. Mewn geiriau eraill, mae yna ryddid cyfyngedig i symud: rhyddid i symud i swydd a rhywfaint o hyblygrwydd ynglŷn â hynny, ond daw adeg, os nad oes gan rywun swydd, pan na allant weithio neu aros yn y DU. Y gwir amdani oedd bod y DU yn mynd y tu hwnt i’r hyn a oedd yn ofynnol o dan y rheolau. Pe baent yn cael eu dehongli yn yr un modd ag y mae Norwy’n dehongli’r rheolau, er bod rhyddid i symud gan Norwy, rydych yn cyflwyno system synhwyrol yn fy marn i, a byddai’r rhan fwyaf o bobl yn ei derbyn. Nid oes neb wedi dweud wrthyf, ‘Yr hyn sydd angen i ni ei wneud, welwch chi, yw atal yr holl feddygon, y nyrsys a’r myfyrwyr hyn rhag dod i mewn i Brydain.’ Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn dal i allu manteisio ar yr arbenigedd gorau o bedwar ban byd. Rwy’n credu bod rhyddid i symud i weithio yn ffordd hynod o synhwyrol a rhesymegol o ymdrin â phryderon pobl heb ein hynysu rhag gweddill y byd.
Mae’n rhaid i ni fod yn ofalus hefyd ynglŷn â chytundebau masnach rydd; nid ydynt yr hyn y credir eu bod. Gallai cytundeb masnach rydd yn Tsieina ei gwneud yn amhosibl gosod tariffau ar ddur o Tsieina, a byddai hynny’n golygu diwedd Tata a chynhyrchu dur yng Nghymru. Byddai cytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd yn creu risg o fwy o gig oen Seland Newydd yn dod i Gymru, a byddai hynny’n arwain, wrth gwrs, at sefyllfa lle y mae ffermwyr Cymru, unwaith eto, yn cael eu taro gan ergyd ddwbl dim cymhorthdal a gorfod cystadlu yn erbyn cig oen a fydd bob amser yn rhatach. Beth bynnag a wnawn, bydd cig oen Seland Newydd bob amser yn rhatach na chig oen yng Nghymru oherwydd daearyddiaeth a thopograffeg a hinsawdd Seland Newydd. Ni all ein ffermwyr fforddio gweld hynny’n digwydd. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.