Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 11 Ionawr 2017.
Ac rwy’n ofni’r hyn sy’n cael ei ddweud yn yr Unol Daleithiau. Nid wyf yn credu am funud y bydd yr Unol Daleithiau yn dod i gytundeb gyda’r DU a fydd yn unrhyw beth heblaw manteisiol i’r Unol Daleithiau. Etholwyd Arlywydd yr Unol Daleithiau ar blatfform o ddiffyndollaeth. Nid yw’n mynd i wneud unrhyw gymwynasau â’r DU. Mae’n naïf i feddwl mai dyna fydd yr Unol Daleithiau yn ei wneud.
Rwyf hefyd yn credu bod angen ysbryd o gydweithrediad wrth fynd i mewn i’r trafodaethau hyn—nid ysbryd o’r hyn rwy’n ei alw’n haerllugrwydd ymerodrol, gan feddwl y bydd y byd yn plygu ger ein bron. Wrth gwrs, mae’r UE yn allforio mwy o ran arian parod i’r DU. Byddai’n rhyfedd pe na bai: mae wyth gwaith yn fwy na’r DU. Ond y gwir amdani yw bod mwy na 40 y cant o allforion y DU yn mynd i’r UE, a dim ond 8 y cant y ffordd arall. Felly, mewn gwirionedd, mae marchnad yr UE yn llawer pwysicach i’r DU o ran y ganran o allforion nag y mae’r DU i’r farchnad Ewropeaidd. Mae llawer o gynhyrchwyr Ewropeaidd yn gwybod y byddant yn dal i allu gwerthu i’r DU, hyd yn oed gyda thariffau, oherwydd nad oes gan bobl ddewis arall. Os ydych am brynu car, nid oes gennych fawr o ddewis heblaw prynu car sydd wedi’i gynhyrchu dramor yn rhannol o leiaf. Nid yw fel pe bai yna ddewis arall o ran car wedi’i weithgynhyrchu ym Mhrydain. Felly, mae’r syniad mai’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yw hi ac y bydd y byd yn plygu ger bron Prydain yn agwedd anghywir ar ran Prydain. Mae Prydain yn economi fawr, ond nid yw’n farchnad fawr. Rhaid i ni gadw hynny mewn cof wrth i ni ystyried beth ddylai ein safbwynt fod.
Amserlen: nawr, awgrymwyd bod cytundebau masnach rydd yn un ffordd bosibl ymlaen. Nid wyf yn argyhoeddedig o hynny. Dywedodd arweinydd UKIP ei hun ei bod wedi cymryd pum mlynedd i drafod cytundeb â De Corea. Dwy flynedd yn unig sydd gennym. Mae’n amhosibl negodi cytundeb masnach rydd gydag unrhyw un mewn dwy flynedd. Rwyf wedi siarad â swyddogion o Lywodraethau eraill sydd wedi gwneud hyn, ac maent i gyd yn dweud wrthyf ei bod yn cymryd dwy flynedd i gytuno i gael y trafodaethau yn y lle cyntaf. Mae cael cytundeb masnach rydd mewn dwy flynedd yn gwneud i’r DU edrych yn wirion, pan fydd pobl yn awgrymu hynny mewn gwirionedd. Saith mlynedd, 10 mlynedd—dyna’r amserlen ar gyfer cytundebau masnach rydd. Felly, mae’r trefniadau trosiannol ar ôl Mawrth 2019 yn hynod o bwysig. Ni allwn gamu dros ymyl clogwyn a cheisio dringo yn ôl i fyny wedyn. Mae’n rhaid cael pont rhwng y canlyniad terfynol a mis Mawrth 2019. Nid oes digon o feddwl wedi’i wneud ynghylch hynny.
Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd Mark Isherwood. Rhaid i mi ddweud, yn yr holl flynyddoedd y bûm mewn Llywodraeth nid wyf erioed wedi gweld Llywodraeth y DU sy’n fwy digyfeiriad. Nid oes gennyf unrhyw syniad beth yw safbwynt Llywodraeth y DU. Rwy’n clywed safbwyntiau gwahanol gan wahanol Weinidogion. Mae’r farchnad arian yn ymateb bob tro y mae Theresa May yn dweud rhywbeth am nad ydynt yn gwybod beth y mae hi—. Mae arweinydd y Ceidwadwyr newydd gerdded yn ôl i mewn i’r Siambr. Pe baech chi eisiau chwarae rhan yn y drafodaeth, buasech wedi bod yma o’r cychwyn cyntaf yn hytrach na cherdded i mewn ar y diwedd un. Mae’n siarad am rwgnach diddiwedd o’r meinciau hyn; mae’n feistr ar y gelfyddyd honno. Pe bai wedi gwrando ar y dadleuon, efallai y byddai wedi dysgu mwy yn hytrach na dod i mewn ar y diwedd gyda meddwl caeedig.
Ond nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi unrhyw arweiniad i ni o gwbl. Rwy’n clywed rhai yn Llywodraeth y DU yn siarad am dariffau fel pe na baent o unrhyw bwys. Rwy’n clywed David Davis yn newid ei safbwynt, a chroesawaf hynny, mewn gwirionedd. Mae wedi newid ei safbwynt i’r hyn y credaf sy’n safbwynt mwy pragmatig. Gobeithio y bydd y pragmatyddion yn Llywodraeth y DU yn gryfach na’r dogmatwyr, sy’n malu awyr cenedlaetholgar, a bod yn onest. Dyna’r unig ffordd y gallaf ei ddisgrifio—fel cenedlaetholdeb ar gyfer y DU. Os gwaeddwch ar estroniaid ddigon byddant yn rhoi’r hyn rydych ei eisiau i chi. Yn y bôn, dyna y mae rhai o’r Blaid Geidwadol ei eisiau, ac mae’n rhaid datrys y mater hwn er lles pobl Prydain, nid er mwyn yr hyn sy’n wleidyddol gyfleus oherwydd y rhwygiadau o fewn y Blaid Geidwadol. Yn anffodus, dyna sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Gwelliant Plaid Cymru—byddwn yn cefnogi’r gwelliant hwnnw. Rwy’n falch eu bod yn croesawu’r ymweliad â Norwy. Gofynnwyd i mi heddiw a oedd yn ymweliad hwyliog. Roeddwn yn gwybod y byddai rhywun yn gofyn hynny i mi wrth i mi sefyll mewn tymheredd o -16 gradd C yn yr eira. Gallaf eich sicrhau nad oedd yn teimlo felly ar y pryd. Trafodais aelodaeth o Ardal Masnach Rydd Ewrop gyda hwy. Yn sicr, mae cryn bryder ymhlith aelodau EFTA ynglŷn â’r DU yn ymuno, oherwydd ei maint. Norwy yw’r wlad fwyaf yn EFTA ar hyn o bryd wrth gwrs. Er mai dim ond 5 miliwn o bobl sydd ganddi, mae’n allforiwr olew enfawr. Daw hanner olew’r DU o Norwy. Dim ond 5 miliwn o bobl, ond ceir cronfa gyfoeth sofran o £700 biliwn a gronnodd wrth i DU wario’i holl arian olew hi. Felly, mae’n chwarae rhan go bwysig, er gwaethaf ei maint. Mae angen cael trafodaeth gyda Norwy ac aelodau eraill o EFTA ynglŷn ag a fyddai’r DU yn cael croeso yn EFTA oherwydd ei maint. Ond rwy’n falch o weld mai’r trydydd pwynt a gyflwynwyd yn y gwelliant, gan ddefnyddio’r ymadrodd rwyf wedi’i ddefnyddio, yw ‘mynediad llawn a dilyffethair’ at y farchnad sengl. Mae aelodaeth o EFTA yn sicr yn bosibilrwydd. Mae aelodaeth o’r AEE, unwaith eto, yn rhywbeth i edrych arno. Mae’r undeb tollau o bosibl yn llai deniadol ar hyn o bryd, oherwydd yr hyn y byddai hynny’n ei wneud. Rwy’n credu bod aelodaeth o EFTA a/neu’r AEE mewn gwirionedd yn opsiwn gwell ar hyn o bryd, ar ôl archwilio’r dystiolaeth. Ond rhaid i mi ddweud, po fwyaf yr edrychwch ar hyn, y mwyaf cymhleth y mae’n mynd. Yr un peth y dylem ei osgoi yw meddwl, ‘Mae hyn i gyd yn hawdd iawn, bydd y cyfan yn cael ei ddatrys mewn dwy flynedd.’ Nid yw hynny’n mynd i ddigwydd. Mae hyn yn mynd i alw am ymdrech fawr, gwaith caled, ac rwy’n benderfynol ein bod yn cael hyn yn iawn i bobl Cymru.