Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 17 Ionawr 2017.
Wel, gallaf ddweud fod hyfforddiant rhaeadru 'Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff' ar gael i gymunedau a busnesau. Hyd yn hyn, mae WRAP Cymru wedi hyfforddi dros 3,400 o bobl yng Nghymru ac mae hynny’n helpu defnyddwyr i wneud y mwyaf o'r bwyd y maen nhw’n ei brynu. Mae'n gychwyn. Mae mwy i'w wneud, ond gallwn wneud mwy. Rydym ni eisoes wedi lleihau cyfanswm y gwastraff bwyd yng Nghymru. Fe’i gostyngwyd gan oddeutu 24,000 tunnell hyd yn hyn. Rydym ni’n gwybod bod mwy i’w wneud, ond mae’r gwaith hwnnw’n parhau nawr.