Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 17 Ionawr 2017.
Wrth gwrs, nid cartrefi yn unig yw hyn; ceir gwasanaethau cyhoeddus hefyd, lle mae angen rhoi rhywfaint o sylw i hyn. Mae’r Rhaglen Gweithredu Adnoddau a Gwastraff, WRAP, y mae eich Llywodraeth yn ei hariannu, yn gweithio gyda bwrdd iechyd prifysgol Abertawe Bro Morgannwg erbyn hyn i ganfod sut i leihau gwastraff bwyd mewn ysbytai. Dyna un peth. Ond yr wythnos diwethaf, cadarnhaodd PABM bod derbyniadau oherwydd diffyg maeth ar eu huchaf ers pum mlynedd. Felly, gall WRAP a PABM gydweithio â phartïon eraill i nodi a rhannu syniadau da—yn wir, rwy'n cynnal un o'r sesiynau cyngor Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff hynny ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Iau; efallai yr hoffech chi ddod—ond a ydych chi’n credu mai rhan o broblem fwy i’r Llywodraeth a chymdeithas yw gwastraff bwyd, sy’n ymwneud â maeth ac agweddau at fwyd, y mae angen i ni fod yn fwy o ddifrif yn eu cylch, yn hytrach nag ymatebion tameidiog i bethau fel gordewdra, pecynnu , gofal nyrsio, iechyd anifeiliaid, ôl-troed carbon, ac yn y blaen?