Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 17 Ionawr 2017.
Gallai cefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiect Cwm Yfory, yn Llwydcoed yn fy etholaeth i, olygu y bydd gwastraff bwyd yn darparu digon o bŵer ar gyfer 1,500 o gartrefi, trwy gynhyrchu dros 1 MW o drydan gwyrdd. Pa werthusiad dros dro y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o’r prosiect hwn?