Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 17 Ionawr 2017.
Ein blaenoriaeth yw lleihau cyfanswm y gwastraff bwyd, yn amlwg, a gynhyrchir gan gartrefi. Rydym ni’n gweithio gyda'r awdurdodau lleol sy'n rhan o ganolfan Cwm Yfory i ddarparu cymorth ymgyrch wedi'i dargedu i gynyddu faint o wastraff bwyd sy'n cael ei gasglu gan awdurdodau lleol i’w ailgylchu. Ar ôl ei chwblhau, bydd yr ymgyrch yn cael ei gwerthuso i benderfynu ar ei llwyddiant trwy edrych ar y data ailgylchu gwastraff bwyd.