<p>Perthynas Cymru â’r Undeb Ewropeaidd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 17 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:09, 17 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, nodais yr hyn a ddywedodd hi. Croesewais yr hyn a ddywedodd. Yn wir, dywedodd nid yn unig y byddai hawliau yn cael eu diogelu ond y byddent yn cael eu hymestyn yn y dyfodol, nad oeddwn i’n ei ddisgwyl, ond sy’n rhywbeth rwy’n ei groesawu. Tanseiliwyd hyn, wrth gwrs, gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma, a saethodd fwled fawr iawn drwy’r ddadl honno. Gobeithio fod hyn yn arwydd ei bod hi’n barod i frwydro’r asgell dde rhonc yn ei phlaid ei hun ac i gyflawni'r addewidion a wnaeth heddiw, oherwydd gwyddom fod rhai yn y Blaid Geidwadol sydd o’r farn mai’r ffordd orau ymlaen yw gwneud y DU yn fodel o ddadreoli, mewn ffordd debyg i rai gwledydd yn y byd lle nad oes unrhyw hawliau i weithwyr, lle mae pobl yn byw mewn ofn o ran diogelwch eu swyddi ac y mae eu hansawdd bywyd yn llawer is na’r hyn sy’n bodoli yn y DU ar hyn o bryd hyd yn oed.