<p>Perthynas Cymru â’r Undeb Ewropeaidd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 17 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:10, 17 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Roedd gennyf ddiddordeb yn sylwadau cynharach y Prif Weinidog ynghylch ein perthynas â’r UE yn y dyfodol, yn enwedig y goblygiadau i borthladdoedd Cymru. Awgrymodd y byddai'n annerbyniol i Ogledd Iwerddon gael trefniadau tollau mwy ffafriol na Chymru. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, yn y sefyllfa honno, a fyddai'n dadlau yn erbyn telerau o’r fath i Ogledd Iwerddon, neu a fyddai'n ceisio dull gwahaniaethol tebyg i Gymru er mwyn amddiffyn ein porthladdoedd a'n heconomi?