Part of the debate – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 17 Ionawr 2017.
Diolch i chi am yr ateb yna, er ei fod yn fyr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi cwrdd â’r prif weithredwr ac aelodau o'r bwrdd ymddiriedolwyr ar sawl achlysur ers y cyhoeddiad i atal cyllid ar 12 Rhagfyr. Fy mhryderon i yw, efallai: beth oedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn yr archwiliadau hyn ymlaen llaw? Rwy’n credu, fel yr amlygwyd, mai archwiliad Llywodraeth Cymru yw hwn. Pam na sylwyd ar hyn yn gynharach? Oherwydd mae problemau amlwg yno ac mae’n ymddangos eu bod wedi bod yn digwydd ers cryn amser. Ond hefyd, ceir cwestiwn cyllido o ran y cyfnod o 1 Rhagfyr i 12 Rhagfyr pan gafodd y cyllid ei atal. Beth sy'n digwydd i'r arian ar gyfer darparu gwasanaethau yn ystod y cyfnod hwnnw? Ond, hefyd, pa ddewisiadau eraill a fydd yn cael eu rhoi ar waith? Rydych chi wedi atal y cyllid, ond mae yna bobl sy’n aros i ymuno â rhaglenni nad ydynt ar gael iddyn nhw, yn y bôn, gan fy mod yn deall bod NSA Afan wedi atal cyflwyno ei ddarpariaeth o raglenni mewn gwirionedd. A cheir aelodau staff, fel y nodwyd, sy'n debygol o golli eu swyddi o ganlyniad i hynny. Pa ddewisiadau eraill ydych chi’n eu rhoi ar waith neu yn eu sefydlu i sicrhau nad yw'r unigolion hynny yn talu’r pris am ymchwiliad a ddylai, efallai, fod wedi dod o hyd i rywbeth yn gynharach?