2. Cwestiwn Brys: NSA Afan

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 17 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:24, 17 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar am gyfraniad yr Aelod. Rwy’n diolch iddo ef ac i eraill am godi'r mater hwn gyda mi yn y gorffennol. Mae hyn yn cael ei ymchwilio gan Lywodraeth Cymru a gan yr heddlu ac nid wyf yn gallu rhoi unrhyw fanylion pellach am hyn i'r Siambr heddiw, ond pan fyddwn yn codi'r gwaharddiad, os byddwn yn gwneud hynny, ar gefnogaeth i NSA Afan, neu fel arall, byddaf yn rhoi gwybod i'r Siambr.