5. 3. Datganiad: Y Fframwaith Cyllidol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 17 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:01, 17 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Cyn i’r Cynulliad hwn drafod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ym Mil Cymru yn hwyrach y prynhawn yma, hoffwn wneud datganiad ynghylch y fframwaith cyllidol a gytunwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fis diwethaf.

Wrth i Fil Cymru symud ymlaen drwy Senedd y DU, mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir y byddai'n rhwystr sylweddol i gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil Cymru pe na bai modd i ni ddod i gytundeb â Llywodraeth y DU ar drefniant cyllido teg, hirdymor i Gymru. Rwy'n credu bod y fframwaith cyllidol y cytunwyd arno gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn mynd i'r afael â’r pryder hwnnw. Mae'n cynnig cam ymlaen yn y ffordd yr ariennir Cymru, gan ystyried y pwerau treth newydd a fydd yn cael eu datganoli yn 2018, ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer datganoli cyfraddau treth incwm Cymru yn 2019. Byddaf yn nodi fy marn fy hun yn bendant ar ddechrau'r datganiad hwn, Lywydd: fy nghred i yw bod hwn yn fframwaith cyllidol sy'n deg i Gymru ac sy’n deg i weddill y Deyrnas Unedig. Mae'n golygu nad yw trefniadau cyllidol yn rhwystr i gefnogi Bil Cymru bellach, os mai dyna yw bwriad y Cynulliad Cenedlaethol hwn.

Cytunwyd ar y fframwaith yn dilyn cyfnod dwys o drafodaethau â Thrysorlys EM. Mae’r canlyniad yn becyn cymhleth o drefniadau rhyng-gysylltiedig. Wrth eu gwraidd y mae diwygio fformiwla Barnett, fel y'i cymhwysir i Gymru. Am y tro cyntaf, rydym wedi dod i gytundeb â Llywodraeth y DU ar ddull ariannu a fydd yn adlewyrchu anghenion cymharol ein poblogaeth. Mae diwygio fformiwla Barnett yn benllanw blynyddoedd lawer o sylwadau gan Lywodraethau Cymru olynol. Rhoddaf deyrnged arbennig i waith fy rhagflaenydd, Jane Hutt, a gyflawnodd gam pwysig ymlaen o ran sicrhau’r cytundeb cyntaf erioed i gyllid gwaelodol i Gymru. Rwyf hefyd am gydnabod cefnogaeth pleidiau eraill yn y Siambr hon, sydd wedi dangos eu hymrwymiad i sicrhau bargen deg i Gymru ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod y cytundeb trawsbleidiol cryf hwnnw wedi bod yn wirioneddol ddylanwadol wrth gyflawni'r setliad ariannu hwn.

Bydd y fframwaith yn gweld y cyllid gwaelodol a argymhellwyd gan gomisiwn Holtham yn cael ei roi ar waith ac mae'n cael ei osod o fewn amrediad Holtham ar 115 y cant o'r gwariant cymharol yn Lloegr. Er bod cyllid cymharol yng Nghymru yn parhau i fod uwchlaw'r lefel hon, bydd yr holl gyllid drwy fformiwla Barnett yn cael ei luosi â ffactor trosiannol o 105 y cant. Bydd hyn yn arafu cydgyfeirio Barnett ac yn darparu adnoddau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gyda'i gilydd, mae ein hamcangyfrifon yn awgrymu y bydd y cytundeb yn ei gyfanrwydd yn darparu hyd at £1 biliwn o refeniw ychwanegol i Gymru yn ystod ei 10 mlynedd gyntaf.

Mae'r fframwaith cyllidol yn nodi'r addasiad grant bloc ar gyfer trethi datganoledig. Bydd treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi yn cael eu datganoli ym mis Ebrill 2018. Cafodd y fframwaith ei drafod yn benodol i gytuno ar y trefniadau y byddai eu hangen pe byddai Bil Cymru yn cael ei basio, os mai dyna fydd ewyllys y Cynulliad Cenedlaethol a Senedd y DU, gan gynnwys cael gwared ar y gofyniad i gynnal refferendwm ar dreth incwm. Mae'r fframwaith fel y cytunwyd arno yn ystyried amgylchiadau Cymru, yn enwedig ein sylfaen treth incwm, sy'n wahanol i'r un yn Lloegr. Bydd hyn yn gwarchod cyllideb Cymru rhag effaith newidiadau polisi sylweddol posibl gan Lywodraeth y DU.

Ar y sail honno, yr wyf i heddiw yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfraddau treth incwm ar gyfer Cymru o fis Ebrill 2019, yn amodol ar basio Bil Cymru. Bydd cyfraddau treth incwm ar gyfer Cymru, ynghyd â threth trafodiadau tir, treth gwarediadau tirlenwi a threthi sydd eisoes yn bodoli—ardrethi annomestig a threth gyngor—yn rhoi cyfres newydd o ysgogiadau treth i Lywodraeth Cymru i gefnogi gwariant cyhoeddus ac i fod yn sail i lwyddiant economi Cymru.

Lywydd, o ran agweddau eraill ar y cytundeb, bydd mwy o ddatganoli trethi yn cynyddu ffynhonnell cyfalaf yn ogystal â gwariant refeniw i Gymru. Yn y fframwaith cyllidol, bydd ein terfyn benthyca cyfalaf yn dyblu o £500 miliwn i £1 biliwn. Bydd hyn yn rhoi'r gallu i ni reoli'r buddsoddiad seilwaith sydd ei angen i gefnogi'r economi a gwasanaethau cyhoeddus ehangach yng Nghymru yn well. Bydd y terfyn benthyca uwch hwnnw yn cael ei gyflwyno pan fydd cyfraddau treth incwm ar gyfer Cymru yn cael eu rhoi ar waith.

Er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i ni reoli ein hadnoddau mewn modd mwy effeithlon a thryloyw, mae’r fframwaith yn caniatáu i gronfa wrth gefn sengl newydd ar gyfer Cymru gael ei chyflwyno o fis Ebrill 2018 ymlaen. Bydd hon yn gweithredu fel rhyw fath o gyfrif cynilo, gan ein galluogi i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw ansefydlogrwydd yn y refeniw treth drwy gadw refeniw heb ei wario i’w ddefnyddio yn y dyfodol. Bydd y gronfa wrth gefn hefyd yn ein galluogi i reoli'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn heb fod angen trafodaethau blynyddol â’r Trysorlys.

Lywydd, rydym ni hefyd wedi sicrhau goruchwyliaeth annibynnol yn rhan o'r fframwaith cyllidol. Am gyfnod rhy hir, mae'r Trysorlys wedi gallu gweithredu fel barnwr a rheithgor mewn trafodaethau cyllido. Gwnaeth comisiynau Holtham a Silk argymell swyddogaeth i gyrff annibynnol i oruchwylio materion ariannol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac mae hyn wedi ei gytuno bellach yn y fframwaith cyllidol. Yn y dyfodol, bydd hyn yn berthnasol i weithrediad y fframwaith a bydd yn cynnwys swyddogaeth ar gyfer cyrff sy’n annibynnol ar y Llywodraeth i gyfrannu os bydd unrhyw anghytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch gweithrediad y fframwaith ei hun. Gyda'i gilydd, bydd y pecyn hwn o drefniadau yn cynnig trefn gyllido sy'n adlewyrchu anghenion cymharol Cymru, yn diogelu ein cyllideb rhag risgiau gormodol a allai ddilyn datganoli trethi, ac yn cryfhau gallu Llywodraeth Cymru i reoli ein hadnoddau ein hunain.

Lywydd, dywedais ar y dechrau bod y cytundeb yn ddigonol i’w gwneud yn bosibl i Fil Cymru gael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Wrth i ni symud tuag at y ddadl cynnig cydsyniad deddfwriaethol, fodd bynnag, mae’n rhaid i mi hefyd, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, gadarnhau bod natur ryngberthynol y darpariaethau yn y fframwaith yn golygu, os na fydd Bil Cymru yn cael ei basio, na chaiff y fframwaith cyllidol ei weithredu fel yr wyf wedi ei amlinellu y prynhawn yma. Yn yr amgylchiadau hynny, byddai'n rhaid i ni ail-drafod yr addasiad i’n grant bloc er mwyn caniatáu ar gyfer datganoli treth dir y dreth stamp a’r dreth tirlenwi ym mis Ebrill 2018. Ni fyddai modd gwybod yn glir pa rai o'r mesurau eraill y gellid eu sicrhau ac ar ba gost hyd nes y byddai’r aildrafodiadau eu hunain wedi’u cynnal. Yn y cyfamser, Lywydd, rwy’n cymeradwyo'r fframwaith hwn, a gynlluniwyd i fodloni amgylchiadau unigryw Cymru, i'r Cynulliad Cenedlaethol.