Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 17 Ionawr 2017.
Yn gyntaf oll, a gaf i groesawu eglurder datganiad Ysgrifennydd y Cabinet? A gaf i groesawu yn fawr iawn y corff annibynnol ar gyfer ymdrin ag anghytuno? Fel y mae pobl wedi fy nghlywed yn dweud droeon yn y fan hon, rwy’n credu ein bod wedi cael bargen wael iawn o Gemau Olympaidd Llundain. Rwy’n credu y dylem, yn ôl pob tebyg, fod wedi cael yn nes at 20 gwaith cymaint ag y cawsom, a gobeithio, y bydd hyn yn mynd i’r afael â’r mathau hynny o broblemau.
A sôn am ymddygiad, ni fu unrhyw newid ymddygiad oherwydd y gwahaniaethau enfawr yn y dreth gyngor rhwng awdurdodau lleol. Ni fu rhuthr o'r Fenni i Allt yr Ynn ac ni fu rhuthro ar draws ffin Sir Gaerfyrddin i Sir Benfro oherwydd bod y trethi cyngor yn sylweddol llai.
Mae gennyf dri chwestiwn. Yn gyntaf, mae’r ddwy dreth o bwys sy’n cael eu datganoli yn drethi hynod gylchol. Ac rydym yn gwybod bod y gallu i amrywio cyfraddau treth incwm wedi’i ddatganoli i'r Alban ers 1999. Gwyddom hefyd nad yw wedi cael ei ddefnyddio. Mae amrywio'r cyfraddau trethi yn anhygoel o anodd. Os byddwch yn ei chynyddu o’i gymharu â Lloegr: bydd y cyhoedd yn digio. Os byddwch yn ei lleihau: bydd gostyngiad mewn refeniw a thoriadau i wasanaethau. Nid yw’n syndod o gwbl nad yw’r Alban wedi amrywio eu cyfradd i fod yn anghyson â gweddill y Deyrnas Unedig, ac wrth i weddill y Deyrnas Unedig amrywio’r cyfraddau, mae’r Alban wedi dilyn.
Bydd anhawster mawr hefyd wrth nodi trethdalwyr Cymru, yn hytrach na threthdalwyr Lloegr. A chafwyd problem yn yr Alban, sydd â ffin llawer llai agored, lle ceir llawer llai o symud dros y ffin na’r hyn a geir rhwng Cymru a Lloegr. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod y mesurau diogelwch sydd ar waith o ran edrych ar bob band yn unigol, a gwarchod cyllideb Cymru yn gyffredinol fel canran o gyllideb Lloegr, yn rhoi digon o amddiffyniad?
Dyma’r ail gwestiwn: gwnaethom bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, felly, a yw hynny'n golygu y gall yr ardoll gyfanredol bellach gael ei datganoli i Gymru pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac y gall trethi eraill sydd wedi'u heithrio gan reolau’r Undeb Ewropeaidd bellach gael eu hystyried i fod wedi’u datganoli? O ran terfynau cyfalaf, a yw Ysgrifennydd y Cabinet, fel fi, o’r farn bod y terfyn yn fympwyol? Ac a yw'n rhannu fy mhryderon y bydd y terfyn yn cael ei ystyried yn darged, yn hytrach nag yn derfyn, ac na fydd y ddadl a ddylai fod yn digwydd am fforddiadwyedd a chanlyniadau refeniw gwariant cyfalaf, yn digwydd yn yr un modd, os, yn hytrach na chael terfyn mympwyol a bennwyd gan y Trysorlys, bod yn rhaid i ni ymgymryd â benthyca darbodus a bod yn rhaid i ni mewn gwirionedd gyflwyno achos dros y benthyca hwnnw a dangos y gallu ariannol yn y dyfodol i ymwneud â’r benthyca hwnnw, yn hytrach na chael targed a cheisio ei gyrraedd?