Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 17 Ionawr 2017.
Wel, rwy’n cofio'r trafodaethau â'r Trysorlys am y Gemau Olympaidd. Ac mae'n enghraifft berffaith o adeg, yn yr achos hwnnw, pan oedd y Trysorlys yn farnwr ac yn rheithgor ac yn orfodwr o’r canlyniad, ac ni waeth pa mor gryf oedd y dadleuon ar yr ochr arall, nid oedd yn barod i’w hystyried o gwbl. Mae'r cytundeb hwn yn golygu na fyddai’r sefyllfa honno yn codi yn y dyfodol.
Gofynnodd Mike Hedges am newidiadau ymddygiadol, a, Ddirprwy Lywydd, efallai y dylwn i, am eiliad—oherwydd credaf fod nifer o Aelodau wedi gofyn hyn—esbonio agwedd eithaf technegol ar y cytundeb, sef sut yr ydym yn ymdrin â’r hyn a elwir yn gorlifo polisi. Felly, ymdrinnir â thri gwahanol fath o orlifo polisi yn y fframwaith. Pan fo effeithiau uniongyrchol, felly os byddai Llywodraeth y DU yn newid lwfansau treth incwm, yna rhoddir ystyriaeth uniongyrchol i’r effeithiau hynny yn y fframwaith. Os oes effeithiau ymddygiadol, pe byddem yn newid cyfraddau treth trafodiadau tir yng Nghymru a bod hynny’n arwain at bobl yn dod i fyw yng Nghymru, a phe bai hynny'n gwneud gwahaniaeth i'r dreth a gymerir ar y naill ochr i'r ffin neu’r llall, yna bydd y fframwaith yn caniatáu i’r effeithiau ymddygiadol hynny, yn eithriadol, gael ystyriaeth pan fyddan nhw’n faterol ac yn amlwg. Felly, mae yna effeithiau ymddygiadol y gellir rhoi ystyriaeth iddyn nhw, ond rwy’n credu y bydden nhw’n brin iawn ac rwy’n credu y gosodwyd rhwystr addas.
Cyn belled ag y bo effeithiau eilaidd yn y cwestiwn, pan allai camau gweithredu, er enghraifft, a gymerwn fel Cynulliad Cenedlaethol arwain at economi Cymru fwy bywiog ac y byddai hynny’n arwain at fwy o gyfraniadau yswiriant gwladol gan drethdalwyr Cymru yn llifo i’r Trysorlys, rydym ni wedi cytuno bod y rheini’n rhy gymhleth i’w holrhain, ac y byddai bron yn amhosibl i ddangos achos ac effaith. Nid yw effeithiau eilaidd hynny, felly, wedi eu cynnwys yn y fframwaith.
Gofynnodd Mike Hedges am sut y nodir trethdalwyr, ac mae'n hollol wir bod Cyllid a Thollau EM wedi ei chael hi’n anodd i nodi’r trethdalwyr a oedd yn byw yn yr Alban. Rydym o’r farn eu bod wedi dysgu llawer o’r profiad hwnnw, ac mae’n rhan o’r prosiect trethi datganoledig sydd gennym ar y cyd â CThEM i ddysgu’r gwersi o brofiad yr Alban ac i wneud yn siŵr y gellir nodi trethdalwyr Cymru mewn ffordd effeithiol.
A oes digon o ddiogelwch yn y cytundeb yr ydym wedi’i gyrraedd? Wel, dywedais yn fy natganiad ein bod ni o’r farn, o ystyried sefyllfaoedd canolog o ran y boblogaeth, twf gwariant cyhoeddus a phatrymau derbyniadau treth yn y gorffennol, fod y cytundeb hwn yn cyflawni gwerth £1 biliwn o refeniw ychwanegol ar gyfer cyllideb Cymru dros y 10 mlynedd nesaf. Os ydych yn cymryd na fydd twf mewn gwariant cyhoeddus o gwbl, ei fod yn parhau wedi’i rewi ar y lefel bresennol am y 10 mlynedd nesaf, byddem yn dal i fod ar ein hennill o £500 miliwn. Felly, credaf fod y diogelwch yn ddigonol.
Ynghylch yr ardoll agregau, wel, yn anffodus nid ydym wedi gallu datrys hyn eto. Mae'n parhau i fod yn destun anghydfodau cyfreithiol, a gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd, pan fydd hynny’n digwydd, fod yn ffordd o'u datrys, ond nid ydym wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto.
Yn olaf, mae terfynau cyfalaf yn anochel yn fympwyol mewn un ffordd neu'r llall. Rydym wedi cytuno ar derfyn sy'n gymesur â'r terfyn a fyddai gan yr Alban pan oedd ganddi lefel debyg o ddatganoli cyllidol. Cytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Mike Hedges: mae’r benthyca cyfalaf yno i’w ddefnyddio yn ôl yr angen. Nid targed i’w gyrraedd mohono, ac mae llawer o ffyrdd eraill y gallwn ddefnyddio adnoddau cyfalaf, a bydd craffu manwl ar ein gallu i gyllido arian a fenthycwyd trwy refeniw mewn cyfnod pan fydd y cyni ariannol yn parhau i leihau faint o refeniw sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.