Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 17 Ionawr 2017.
[Anghlywadwy.]—y mae’n ei wneud ynghylch yr anghymesuredd posibl i effaith cynyddu cyfraddau treth incwm Cymru, mae hwn yn bwynt a wnaed eisoes gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, ond bydd unrhyw Lywodraeth Cymru sy’n gwneud penderfyniadau o'r fath rywbryd yn y dyfodol yn dymuno pwyso a mesur yr effaith yn ei chyfanrwydd. Bydd yn ceisio ystyried pa effaith y byddai newid cyfraddau treth incwm Cymru yn ei chael yn yr amgylchiadau anodd a amlinellwyd yn glir iawn gan Mike Hedges yn gynharach, nid yn unig ar drethdalwyr unigol ac ar refeniw Llywodraeth Cymru, ond hefyd ar economi Cymru. Felly, bydd yn benderfyniad llawer mwy cymhleth nag un a ddehonglwyd dim ond ar y telerau cyfyng hynny y nododd Mark Reckless.
Gerbron y Pwyllgor Cyllid, Ddirprwy Lywydd, gofynnodd Mr Reckless gyfres o gwestiynau technegol perthnasol iawn i mi am y fframwaith cyllidol, ac roeddwn i’n falch iawn o geisio’u hateb, yna gwyrodd i’r math o wleidyddiaeth damcaniaeth gynllwyn y mae wedi’i chynnig i ni y prynhawn yma. Nid wnaed unrhyw gytundeb. Roedd sail y trafodaethau â’r Prif Ysgrifennydd hwnnw a nodwyd yn fy natganiad, pan ddywedais ein bod wedi cychwyn, wrth drafod y fframwaith, yn benodol ar y sail ein bod yn chwilio am y trefniadau y byddai eu hangen pe bai Bil Cymru yn cael ei basio. Nid oedd oherwydd bod Bil Cymru yn sicr o gael ei basio, ond roeddem yn ceisio sicrhau, erbyn i unrhyw bleidleisiau ar Fil Cymru gael eu cymryd, yn enwedig yn y man hwn, y byddwn i’n gallu dweud wrth Aelodau naill ai, ‘Mae gennym fframwaith cyllidol sy'n eich galluogi i bwyso a mesur Bil Cymru yn ei rinweddau ei hun’, neu ‘Mae’r fframwaith cyllidol wedi dod yn rhwystr i allu Llywodraeth Cymru i argymell Bil Cymru i chi’. Cymerwyd y penderfyniad a gymerodd fy ngrŵp neithiwr mewn trafodaeth drylwyr iawn, manwl iawn a fforensig iawn ynghylch Bil Cymru, lle’r oedd y fframwaith cyllidol, fel yr wyf wedi’i ddweud heddiw—ac y mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn flaenorol—bellach yn elfen niwtral. Nid oedd bellach yn rhwystr i benderfynu cefnogi Bil Cymru. Nid oedd cystal fel bod gwerth pleidleisio dros Fil Cymru na ellid ei gefnogi yn ei rinweddau ei hun. Ac mae'r trafodaethau i gyd wedi eu cynnal ar y telerau syml iawn a di-gynllwyn hynny.