5. 3. Datganiad: Y Fframwaith Cyllidol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 17 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:45, 17 Ionawr 2017

A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad a dweud fy mod i’n gytûn ag e fod y fframwaith cyllidol, fel y mae wedi cael ei gytuno, yn rhoi digon o seilwaith i dderbyn trosglwyddo pwerau trethiannol, nid yn unig y rhai dros dreth incwm, ond hefyd y ddwy dreth arall sydd ar hyn o bryd yn mynd gerbron y Cynulliad drwy’r Pwyllgor Cyllid. Mae yna benderfyniad gwleidyddol arall i’w wneud ynglŷn â Bil Cymru, ond, o safbwynt y fframwaith cyllidol, byddem ni’n hoffi diolch i’r Llywodraeth am y gwaith maen nhw wedi’i wneud, achos rydw i’n meddwl bod hyn yn gymorth mawr i’r Cynulliad wneud y penderfyniadau.

Dau beth sydd gyda fi i’w codi. Yn gyntaf oll, un o’r pethau efallai sy’n cael eu colli yn hyn i gyd, er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn amdano fe, yw’r ffaith bod adolygiad eithaf sylfaenol fan hyn o Barnett, a bod hynny’n rhywbeth rŷm ni wedi bod yn pwyso amdano am rai blynyddoedd. Dechreuodd y broses yma, wrth gwrs, gyda sefydlu Llywodraeth Cymru’n Un a’r penderfyniad i sefydlu, rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, gomisiwn ar y cyd i edrych i mewn i fformiwla Barnett ac anghenion Cymru, wedi’i gadeirio’n gelfydd iawn gan Gerry Holtham. Mae’r adroddiad hwnnw wedi bod yn gynsail i’r gwaith, ac mae’n tanlinellu i fi bwysigrwydd cyngor annibynnol a ffynhonnell annibynnol y wybodaeth er mwyn dadlau yn erbyn y Trysorlys ac yn erbyn Llywodraeth San Steffan. Felly, rydw i yn meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni’n gweld ac yn olrhain y broses yma yn ôl i ddyddiau Holtham—mae wedi cymryd bron ddegawd i gyrraedd y pwynt yma.

Ac, ar y cyd-destun yna ynglŷn â phroses annibynnol, mae yna gydnabyddiaeth yn y fframwaith ynglŷn â’r ffaith bod y Llywodraeth yn gallu sefydlu a dibynnu a throi at ffynhonnell annibynnol ar gyfer adolygu ac ar gyfer gwybodaeth. Roedd y Pwyllgor Cyllid yn y gorffennol wedi argymell y dylid sefydlu comisiwn cyllidol i wneud y gwaith yna—dyna beth sydd gyda chi yn yr Alban. Efallai nad oes digon o waith ar gyfer comisiwn llawn ar hyn o bryd, ond beth nad ydych chi eisiau ei wneud yw gorfod troi at ffynhonnell un flwyddyn a ffynhonnell arall y flwyddyn arall, a chyngor annibynnol gan rywun arall rywdro arall. Mae angen adeiladu rhyw fath o ‘corporate memory’, fel petai, dros gyllido a thros ddatganoli cyllidol yng Nghymru.

Felly, byddwn i’n hoffi clywed mwy gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â sut nawr y mae’n mynd i chwilio am y cyngor annibynnol yna, a beth mae’n disgwyl ei sefydlu, o ran corff neu o ran proses, er mwyn gwneud yn siŵr bod y wybodaeth a’r dystiolaeth annibynnol i’w gael i Lywodraeth Cymru.