– Senedd Cymru am 6:07 pm ar 17 Ionawr 2017.
Symudwn ymlaen yn awr i eitem 6, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cyflenwadau Meddygol (Costau) y Gwasanaeth Iechyd, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i gynnig y cynnig—Vaughan Gething.
Cynnig NDM6201 Vaughan Gething
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil Cyflenwadau Meddygol (Costau) y Gwasanaeth Iechyd sy'n ymwneud â chael a rhannu gwybodaeth am gynhyrchion y gwasanaeth iechyd i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am graffu ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac rwyf yn nodi nad ydynt yn codi unrhyw wrthwynebiadau penodol. Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Cyflenwadau Meddygol (Costau) y Gwasanaeth Iechyd i'r Senedd ar 15 Medi y llynedd. Nodau'r Bil yw egluro pwerau presennol Llywodraeth y DU sef y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno mecanwaith talu yn y cynllun statudol ar gyfer prisio meddyginiaethau yn y DU, a chryfhau pwerau presennol i fynd i'r afael â meddyginiaethau cyffredinol heb eu brandio sydd wedi eu gorbrisio, ac i ddarparu pŵer cryfach i gasglu gwybodaeth am y gost o feddyginiaethau a chyflenwadau meddygol ym mhob rhan o’r gadwyn gyflenwi.
Ymhlith pethau eraill yn y Bil, mae cymal 6 yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn Llywodraeth y DU i ddarparu gwybodaeth prisio a geir ar gyfer dibenion wrth gefn i Weinidogion Cymru i'w defnyddio ar gyfer dibenion datganoledig. Mae cymal 7 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i'w gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau fferyllol a gwasanaethau meddygol sylfaenol y GIG yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru ynghylch prisiau a delir, gostyngiadau, ad-daliadau a roddir a refeniw neu elw a gronnwyd wrth gyflenwi meddyginiaethau a chyfarpar meddygol. Bydd y math yma o wybodaeth yn cael ei defnyddio gan Weinidogion Cymru i gynorthwyo wrth benderfynu ar daliadau cydnabyddiaeth a thaliadau i fferyllwyr a darparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol y GIG yng Nghymru. Bydd hefyd yn cael ei defnyddio i ystyried pa un a oes cyflenwad digonol o feddyginiaethau a chynhyrchion eraill y gwasanaeth iechyd ar gael i'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, am bris sy'n cynrychioli gwerth am arian.
Ar hyn o bryd, nid oes gan Weinidogion Cymru bwerau i fynnu bod darparwyr gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau meddygol sylfaenol y GIG yn darparu gwybodaeth yn ymwneud â chyflenwi cynhyrchion y gwasanaeth iechyd. Bydd gwneud y darpariaethau hyn i Gymru yn y Bil yn sicrhau y bydd gan y DU gyfan ddull cyson o gasglu gwybodaeth o bob rhan o'r gadwyn gyflenwi gyfan, ac felly gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol.
Diolch yn fawr iawn. Unwaith eto, nid oes gennym unrhyw siaradwyr ar gyfer y ddadl. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.