Part of the debate – Senedd Cymru am 6:18 pm ar 17 Ionawr 2017.
Mae hi bron i saith mlynedd ers i’r Ceidwadwyr ffurfio Llywodraeth yn San Steffan—saith mlynedd ers iddyn nhw gyflwyno eu polisïau llymder dinistriol; saith mlynedd ers i gyllidebau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gael eu torri i’r byw o ganlyniad. Siomedig oedd gweld Aelodau Seneddol Llafur yn cefnogi’r siartr llymder cyn etholiad cyffredinol 2015.
Mae’r crebachu ar y gwasanaethau cyhoeddus yn brathu go iawn yn ein cymunedau ni. Yn sgil yr holl sylw y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei gael ar hyn o bryd ac, yn bwysig, y ffordd cafodd yr Undeb Ewropeaidd ei feio am nifer o’r problemau yn ein cymdeithas sy’n codi o ganlyniad i lymder, mae perig inni anghofio mai ideoleg sy’n gyrru llymder. Ideoleg sy’n arwain at ddatgymalu’r gwasanaethau cyhoeddus—y rhwyd diogelwch sydd mor bwysig i gefnogi’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas—ideoleg rydw i a Phlaid Cymru yn ymwrthod â hi.
Yn dilyn blynyddoedd o doriadau i gyllidebau awdurdodau lleol yng Nghymru—toriad o 1.4 y cant yn 2016-17 a 3.4 y cant yn 2015-16—fel rhan o’r cytundeb ar gyfer y gyllideb yn ddiweddar, mae fy mhlaid i wedi sicrhau y bydd £25 miliwn ychwanegol ar gael i ariannu awdurdodau lleol. O ganlyniad i’r cytundeb yma, yn 2017-18, mi fydd rhai o awdurdodau lleol Cymru yn gweld y cynnydd ariannol cyntaf yn eu cyllideb ers rhai blynyddoedd. Ond, wrth gwrs, mewn termau real, ac yn dilyn ffactorau megis chwyddiant, pwysau anorfod sylweddol am fwy o wasanaethau ym maes gofal cymdeithasol, treth cyflogi ychwanegol a’r ardoll prentisiaeth, er gwaetha’r buddsoddiad ychwanegol, mae’r setliad yma yn doriad mewn termau real i rai awdurdodau lleol. Er bod y setliad, felly, yn well na setliadau’r blynyddoedd diwethaf, nid yw’n achos i ddathlu, yn arbennig o ystyried fod pob adran arall o’r Llywodraeth, heblaw gwasanaethau canolog, wedi derbyn cynnydd llawer uwch yn eu cyllidebau.
Un mater i dynnu sylw ato yw’r cais blynyddol i Lywodraeth Cymru ddatgan ffigurau dangosol am y blynyddoedd dilynol gyda’r setliad blynyddol. Mewn blwyddyn arferol ôl-etholiad mi fuasai awdurdodau lleol wedi disgwyl i’r Llywodraeth ddatgan eu bwriad ar gyfer 2018-19 a 2019-20 efo’r setliad ar gyfer 2017-18. Mae’r pwrs cyhoeddus yn crebachu, ac rydym ni i gyd yn ymwybodol bod yna fwy o doriadau ar y ffordd. Ac er bod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi arbed dros £700 miliwn ers dechrau llymder, mae disgwyl y bydd diffyg cyllidebol o ryw £900 miliwn erbyn 2019-20.
Nid yw llymder yn gweithio. Mae Plaid Cymru wedi bod yn dadlau yn gyson ers 2010 bod angen buddsoddi mewn seilwaith—ffyrdd, rheilffyrdd a band llydan—er mwyn sicrhau economi cryf a all arwain at wasanaethau cyhoeddus o safon, sef yr hyn mae pobl Cymru yn ei haeddu.