Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 17 Ionawr 2017.
Yn wir, rwy’n croesawu setliad llywodraeth leol terfynol Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer 2017-18, ac rydym hefyd yn croesawu'r ymrwymiad i leiafswm nawdd ar gyfer setliadau llywodraeth leol, fel yr amlinellwyd yn y rhaglen lywodraethu. Mae hyn, wrth gwrs, yn ategu lleiafswm nawdd fformwla Barnett a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ac rydym yn gobeithio y bydd yn arwain at beth sefydlogrwydd ariannol yn y cyfnod hwy i’n hawdurdodau lleol. Dyma'r cynnydd cyntaf yn y setliad ers pedair blynedd. Ond, wrth gwrs, nid yw'n gwneud yn iawn o gwbl am y £299 miliwn a gymerwyd o gyllidebau llywodraeth leol ers 2013.
Yn wir, byddwn yn cytuno â'r Aelod Siân Gwenllian wrth iddi sôn am y gyllideb ddangosol. Gwn, pan fyddaf yn cwrdd ag arweinwyr cynghorau a phrif weithredwyr, y byddent yn hoffi gallu cynllunio’n ariannol yn y tymor hwy. Rwy'n credu, mewn unrhyw amgylchedd busnes, y byddech am gael rhywfaint o syniad am y setliad sydd i ddod. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi bod awdurdodau lleol, ers 2010, wedi wynebu gostyngiad mewn termau real o £761 miliwn yng nghrynswth y cyllid allanol, sy'n creu y rhan helaethaf o'i arian refeniw cyffredinol, gan gynnwys setliad eleni. Mae’r rhain yn doriadau o tua 7 y cant ers 2013-14. Fodd bynnag, ym Mhowys, rydym yn gweld toriadau o 10.88 y cant; ac yn Sir Fynwy, 9.98 y cant. Eto i gyd, mae'r wyth awdurdod lleol sydd wedi wynebu’r toriadau lleiaf i'w cyllidebau—er mawr ryfeddod—yn cael eu harwain gan Lafur i gyd. Gwelwyd toriadau mawr i’r gwariant ar wasanaethau rheoleiddio —cynllunio, iechyd amgylcheddol a diogelwch bwyd. Mae gan y rhain i gyd eu rhan yn niogelwch a llesiant ein trigolion lleol.
Ers blynyddoedd rydym wedi galw am adolygiad sylfaenol o'r fformiwla ariannu. Mae'r uned asesu gwariant safonol ar gyfer disgybl ysgol uwchradd ym mlynyddoedd 7-11 dros dair gwaith yn fwy nag ar gyfer pensiynwr 85 oed a throsodd, ac yn fwy na 6.7 gwaith yn fwy nag ar gyfer unigolyn sy’n dioddef o anabledd difrifol. Mewn cymdeithas sy'n heneiddio, a chyda cymaint o dystiolaeth yn pwyntio at yr angen am gynnydd enfawr mewn gwariant ar ofal cymdeithasol, mae'n siomedig nad yw hyn wedi ei ateb drwy gyfrwng y fformiwla, gan Lywodraeth Cymru, ar sail flynyddol mewn adolygiad sylfaenol. Mae'r ffigurau ar gyfer gwasgariad y boblogaeth, aneddiadau a throthwyon poblogaeth yn deillio o ddata sy’n dyddio o 1991. Ac mae'r grant amddifadedd yn dyddio o 2000—yn ystod y mileniwm. Nid yw seilio gwariant ein hawdurdodau lleol a'r gofynion sydd arnyn nhw ar ffigurau mor hynafol yn argoeli’n dda ar gyfer ein dinasyddion yng Nghymru.
Er fy mod yn croesawu'r £ 25 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol, rhaid cofio bod arolwg diweddar gan y Sefydliad Iechyd ar ofal cymdeithasol wedi dangos y bydd y pwysau ar eu cyllidebau yn gofyn am ddyblu’r gyllideb dros y 14 mlynedd nesaf. At hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r dreth gyngor yng Nghymru wedi codi, ar gyfartaledd, 3.6 y cant yn 2016-17. Yn 2016, mae Ceredigion, Sir Benfro a Chonwy wedi cynyddu eu treth gyngor 5 y cant, ymhell dros chwyddiant—yn uwch na phob un ond tri chyngor yn Lloegr a'r Alban. Mae eiddo band D ar gyfartaledd bellach yn atebol am £1,374, ac eto ym 1997, pan ddaethoch chi i rym, roedd yn £495. Mae’r dreth gyngor yng Nghymru wedi codi 178 y cant dan Lafur Cymru. Deallaf, Weinidog, eich bod wedi crybwyll o'r blaen y buasech yn adolygu’r dreth gyngor yng Nghymru, a byddwn yn gofyn i chi, o ddifrif, am amlinelliad o rai o'ch syniadau am yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud, wrth symud ymlaen.
Rhwng 2011-12 a 2015-16, cafodd Llywodraeth Cymru dros £94 miliwn mewn nawdd canlyniadol yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i ddarparu grantiau i rewi’r dreth gyngor yn Lloegr. Ond mae eich Llywodraeth chi, yn anffodus, wedi gwrthod defnyddio'r arian hwn. Mae'n ffaith bod y rhai sy’n talu’r dreth gyngor yng Nghymru yn awr yn talu'r gyfran uchaf o dreth gyngor yn ynys Prydain—yn 2015—ac mae’r Cyngor ar Bopeth yn nodi mai’r dreth gyngor yw achos mwyaf y broblem gyda dyled yng Nghymru, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Llywodraeth Cymru wedi addo cynnal yr adolygiad hwn, a byddwn yn wir yn eich annog i fwrw ymlaen.
Wrth gwrs, ar fesurau cyni Llywodraeth y DU y mae’r bai am bob dim bob amser. Wel, mae honno yn ddadl sydd wedi gweld ei dyddiau gorau erbyn hyn, o ystyried mai polisïau o orwario gan y Llywodraeth Lafur flaenorol oedd wedi arwain at weithredu mesurau o'r fath. Rhaid inni beidio ag anghofio: daw £15 biliwn i Gymru o’r Trysorlys ar gyfer poblogaeth o dair miliwn o bobl. Mae hon yn gyllideb sydd wedi ei datganoli. Y chi sy’n cael yr arian, y chi sy’n pennu’r blaenoriaethau. Eich blaenoriaethau chi yw’r rhain. Peidiwch â rhoi'r bai ar Lywodraeth y DU am y modd y byddwch chi yn penderfynu gwario eich arian. Diolch.