Part of the debate – Senedd Cymru am 6:27 pm ar 17 Ionawr 2017.
Cefais fy nhemtio yn arw i godi a dweud fy mod yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Siân Gwenllian a’m bod yn anghytuno â phopeth a ddywedodd Janet Finch-Saunders. Ond yn anffodus i bawb arall, ni fydd mor fyr â hynny yn hollol.
Mae hwn wedi bod yn setliad llawer gwell na’r disgwyl ar gyfer llywodraeth leol. Er bod croeso cyffredinol iddo gan gynghorau, mae'n dal i fod—gadewch i ni gael chwa o’r gwirionedd yma—yn doriad mewn termau real. Mae’r gyfran gymharol o wariant Llywodraeth Cymru ym maes iechyd a llywodraeth leol yn parhau i ffafrio iechyd fwyfwy. Bwriadaf wneud tri pheth. Yn gyntaf, rwyf yn bwriadu trafod y pwysau sydd ar ofal cymdeithasol eto. Nid wyf yn ymddiheuro am hynny, gan fy mod yn credu'n gryf bod gofal cymdeithasol dan fwy o bwysau nag unrhyw wasanaeth arall a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Yn ail, rwyf yn bwriadu cynyddu pwysigrwydd amrywiaeth o wasanaethau cyngor, ac yn olaf rwyf yn bwriadu cysylltu gwasanaethau'r cyngor ag iechyd a lles.
Mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru mewn rhagor o gyfyngder ariannol nag unrhyw faes gwasanaeth arall yn y sector cyhoeddus, ac rwyf yn cynnwys y gwasanaeth iechyd yn hynny. Gwyddom fod y boblogaeth yn heneiddio a bod pobl yn byw'n hirach—ac mae hynny yn destun balchder mawr i lawer ohonom ni—ond rydym yn gwybod hefyd, wrth i bobl fynd yn hŷn, mae angen mwy o ofal arnyn nhw. Rydym hefyd yn gwybod bod pobl ar y cyfan yn profi eu problemau iechyd mwyaf, ac yn gorfod mynd i'r ysbyty, yn ystod 12 mis i ddwy flynedd olaf eu hoes.