5. 5. Dadl Plaid Cymru: Ceblau’r Grid Cenedlaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 18 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:18, 18 Ionawr 2017

Ynghyd â’r Aelod Seneddol, Hywel Williams, mi fues i’n rhoi tystiolaeth ar gyfer ymgynghoriad statudol cyntaf y Grid Cenedlaethol ar gysylltiad gogledd Cymru, sef y cynllun a fyddai’n creu llinell o beilonau ar draws Môn ac Arfon. Yn Arfon, yn benodol, roeddem ni yn galw am dwnel o dan yr afon Menai yn hytrach na pheilonau newydd oherwydd yr effaith weledol hollol negyddol y byddai hynny yn ei gael ar ardal o harddwch naturiol. Roedd gennym ni bryderon ynglŷn ag effaith peilonau ar yr ardal leol ac ar barc cenedlaethol Eryri, sy’n gyfagos. Rwy’n falch bod yr ymgyrch honno wedi bod yn llwyddiannus, efo thwnnel o dan y Fenai yn rhan o’r cynllun erbyn hyn, er fe allai hynny newid, wrth gwrs.

Yn yr ymgynghoriad diwethaf, fe ddywedais y dylid tanddaearu’r darn bychan, 1 km o hyd, o beilonau ar y tir mawr yn Arfon, sy’n parhau i fod yn rhan o’r cynllun sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd, a hynny hefyd oherwydd effaith weledol o’r parc cenedlaethol. Mae’r parc yn ased hanfodol ar gyfer lles economaidd a diwylliannol yr ardal, rŵan ac i’r dyfodol, ac fe allai unrhyw ddatblygiad a all effeithio’n negyddol ar fwynhad pobl o olygfeydd y parc gael effaith andwyol ar yr economi leol, drwy dwristiaeth ac yn y blaen.

Mae Plaid Cymru’n credu, wrth gwrs, y dylai pwerau dros y grid, yn ogystal â phwerau llawn dros brojectau ynni o dan y drefn gynllunio, fod yn nwylo pobl Cymru. Yn fan hyn y dylem ni fod yn gwneud y penderfyniadau. Felly, ni fuasai’n rhaid inni ddibynnu ar ewyllys da y Grid Cenedlaethol efo mater y twnnel o dan y Fenai, er enghraifft.

Yn y cyfamser, mae’n rhaid inni fod yn edrych ar sut i liniaru pethau mewn ffordd fwy realistig, efallai. Yn y cyfamser, mae’n rhaid rhoi ystyriaeth i’r ffordd y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud. Wrth brosesu prosiectau, mae arafwch mawr yn y drefn gynllunio. Yr awdurdodau cynllunio sy’n gyfrifol am sicrhau bod effaith weledol prosiectau trosglwyddo trydan yn cael eu lliniaru, ac mae’n rhaid i’r Grid Cenedlaethol ystyried effaith weledol gwahanol dechnolegau a llwybrau posibl ar gyfer trosglwyddo trydan er mwyn sicrhau caniatâd cynllunio, ac mae hynny i gyd yn cymryd amser. Mae peilonau yn achosi llawer o ddrwgdeimlad lleol oherwydd eu heffaith weledol niweidiol, ac mae hyn i gyd yn achosi oedi mawr yn y drefn gynllunio—ar gyfartaledd, gohiriad o rhwng wyth a 10 mlynedd. Petai’r opsiwn tanddaearu yno o’r cychwyn, ni fyddai’r oedi yna’n digwydd.

Mae llawer o sylw yn cael ei roi i’r gost o danddaearu. Yn 2014, dywedodd yr Infrastucture Planning Commission fod ceblau dan ddaear rhwng 4.5 a 5.7 gwaith yn ddrytach na pheilonau traddodiadol. Mae hwnnw’n swnio yn swm mawr. Ond, pan rydych yn edrych ar bethau fel costau cynnal a chadw, colli trydan, yr effaith ‘Downton’ a’r ffaith, fel yr oeddwn yn sôn, fod penderfyniadau cynllunio yn gallu cymryd cymaint o amser, a phan rydych yn cymryd hynny i gyd i ystyriaeth, mi oedd y ffigwr yn gostwng i rhwng dwy a phump gwaith drytach. Nid oes yna neb yn dadlau nad ydy tanddaearu, ar hyn o bryd, yn ddrytach, ond gall hynny newid, wrth gwrs, wrth i’r dechnoleg wella. Hyd yn oed wedyn, mae o’n llai na 2 y cant o’r gost o gynhyrchu trydan. Mae hynny o arwyddocâd cymharol fechan o gymharu ag effaith negyddol peilonau, a fyddai o bwys mawr i’r economi yn lleol.