5. 5. Dadl Plaid Cymru: Ceblau’r Grid Cenedlaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 18 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:22, 18 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n croesawu’r ddadl hon ar bwnc pwysig iawn, mewn gwirionedd. Rhyddhaodd lledaeniad y cyflenwad trydan yn y 1920au a’r 1930au lawer o bobl rhag llawer o waith caled, ond fe farciodd ein tirwedd a’i thrawsnewid mewn ffordd hyll. Er bod y beirdd rhamantaidd yn ystyried bod Cymru yn un o’r ardaloedd mwyaf dyrchafedig a phrydferth, yn rhy aml yn awr, rhaid i ni edrych ar yr hyn a fuasai’n olygfeydd gwych oni bai am y peilonau anferth sy’n gorymdeithio ar eu traws mewn nifer o ardaloedd. Felly, rwy’n meddwl bod hyn yn rhywbeth sydd o ddifrif yn werth ei ystyried wrth i ddewisiadau amgen ddod yn amlwg bellach. Nodaf—ac fe gyfeiriodd Simon Thomas ato’n fyr—fod gan y Grid Cenedlaethol ei hun gynllun ar hyn o bryd i gael gwared ar y peilonau mwyaf o fannau prydferth o amgylch y DU, ac mae Eryri a Bannau Brycheiniog wedi eu cynnwys yn y rhaglen honno. Mae’n mynd i gostio £500 miliwn yn y cam cyntaf, sy’n swnio’n llawer o bosibl, ond mewn gwirionedd, nid ydych yn gallu claddu cymaint â hynny gyda’r math hwnnw o fuddsoddiad. Ond mae’n arwydd o leiaf eu bod yn sylweddoli bod pethau’n newid mewn ymateb i alw cyhoeddus, ac awydd hefyd i weld y dirwedd yn cael ei hadfer.

Sylwaf fod y ddadl yn Ynys Môn wedi bod yn arbennig o boeth. Rwy’n meddwl bod hynny’n arwydd o bethau i ddod, a dweud y gwir, oherwydd bydd pobl yn gofyn cwestiynau eithaf sylfaenol: ‘Os oes yn rhaid i ni oddef gorsaf ynni, pam fod gennym y ffordd leiaf deniadol o drosglwyddo’r ynni hwnnw?’ Onid yw’n rhan o’r fargen rydych yn ei gwneud gyda’r economi leol eich bod yn ceisio eu helpu cymaint ag y bo modd? Nid yw’r costau’n ansylweddol. Yn fras, mae’n costio dwywaith cymaint i gladdu cebl na’i gael uwchben. Ond rwy’n credu y dylid ystyried y dewis arall hwn bob amser.

Mae yna fanteision cyffredinol hefyd sy’n mynd y tu hwnt i’r manteision amlwg i’r dirwedd. Mae ceblau wedi’u claddu yn gwrthsefyll tywydd garw’n well. Mae fy ymchwilydd yma wedi rhoi mewn cromfachau ‘ar wahân i ddaeargrynfeydd’; wel, nid wyf yn mynd i gynnwys y rheini. Mae’n ffenomen naturiol, felly efallai y dylem fod yn ymwybodol ohoni, ond yn ffodus nid ydym yn dioddef o ddaeargrynfeydd cryf iawn yng Nghymru. Ceir llai o berygl: mae’r diogelwch i bobl, bywyd gwyllt ac awyrennau o gladdu ceblau yn sylweddol. Hefyd, nid ydynt angen cymaint o dir, credwch neu beidio, er gwaethaf y ffaith eu bod yn cael eu claddu, gan—[Torri ar draws.] Na, nid ydynt angen cymaint. Os claddwch gebl, ni fydd angen ond hanner cymaint o dir ag y byddai ei angen arnoch ar gyfer llinellau uwchben.

Felly, mae yna lawer o fanteision. Mae yna anfanteision, a’r gost yw’r un amlwg, ond maent hefyd yn anos i’w hatgyweirio a’u cynnal, felly mae angen i ni gadw hynny mewn cof. Fodd bynnag, rwy’n credu nad yw hynny’n tynnu dim oddi wrth y ddadl gyffredinol o blaid claddu ceblau lle bynnag y bo modd, a gweithredu rhaglen, yn sicr, i gladdu ceblau lle bynnag y bo hynny’n ymarferol mewn ardaloedd o harddwch naturiol gwych.

Lle y mae gennym geblau uwchben, rwy’n meddwl y dylem ystyried fersiynau llai ymwthiol pan fyddant yn cael eu hadnewyddu. Rwy’n falch fod yr hyn a elwir yn beilon T yn cael ei dreialu yn awr. Mae’n llawer teneuach a hefyd yn fyrrach na pheilonau traddodiadol, felly efallai fod honno’n ffordd, lle y mae’n rhaid i ni ddefnyddio peilonau uwchben, o adael iddynt ymdoddi ychydig yn fwy, beth bynnag, i’r dirwedd.

A gaf fi ddweud y byddwn yn cefnogi’r cynnig? Os cyrhaeddwn y gwelliannau, byddwn yn cefnogi’r gwelliannau hefyd. Rwy’n meddwl y dylid parhau’r rhaglen darpariaeth effaith weledol. Mae angen i ni edrych i weld sut y gallwn gynllunio rhaglen waith o’r fath, gan ei fod yn fuddsoddiad mawr. Bydd yn cymryd amser, ond rwy’n falch ein bod yn trafod y mater y prynhawn yma. Mae’n beth teilwng iawn, ac rwy’n siŵr y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn diolch i ni os gwnawn hyn yn flaenoriaeth arbennig yn awr.