Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 18 Ionawr 2017.
Mae gan Blaid Cymru bwynt: byddai ceblau wedi’u claddu yn well i’r tirlun na pheilonau, ond mae’n ymddangos bod Plaid Cymru yn fodlon gweld prisiau ynni i bobl leol yn mynd drwy’r to, gan anghofio nad yw pawb yn ennill cymaint â’r Aelodau Cynulliad sy’n cael gwneud y penderfyniadau. Yn y byd go iawn, mae llawer o bobl yn cael amser anodd yn cael dau ben llinyn ynghyd a dylem wneud popeth a allwn i sicrhau y gallant bweru eu cartrefi, cadw’n gynnes yn y gaeaf, a choginio eu bwyd gan ddefnyddio ffynhonnell ddibynadwy o ynni sydd mor rhad ag y bo modd. Mae hyd yn oed yr opsiwn claddu ceblau rhataf oddeutu pum gwaith y gost gyfatebol o osod llinellau uwchben a phan fydd namau’n digwydd, ni fyddant yn darparu cyflenwad am 25 gwaith yn hwy na cheblau ar beilonau. [Torri ar draws.] Na.
Byddai’r effaith ar fywyd gwledig yn aruthrol yn sgil amseroedd atgyweirio hir o’r fath. Mae ceblau hefyd yn gallu niweidio’r dirwedd. Mae eu gosod yn peri mwy o risg i safleoedd archeolegol, yn enwedig rhai heb eu darganfod eto, rhaid adeiladu baeau cymalu tanddaearol wedi’u leinio â choncrid bob 500m i 1,000m i gysylltu darnau unigol o gebl at ei gilydd, a lle y bydd yn rhaid i’r cebl ddod allan o’r tir am resymau daearegol, rhaid adeiladu lleoedd caeëdig a fydd, o bosibl, yn fwy ymwthiol yn weledol na pheilonau.
Byddai’r aflonyddwch i bobl leol, ymwelwyr, a’r amgylchedd yn enfawr yn ystod y gwaith adeiladu a gallai niweidio’r economi dwristiaeth yn lleol. Felly, nid yw claddu ceblau yn ateb i bob dim fel y byddai Plaid Cymru am i ni gredu. ‘Hyd yn oed wedyn, byddai’n dal i edrych yn llawer gwell’, bydd Plaid Cymru’n dweud, ac maent yn iawn. Ond nid hwy fyddai’n talu’r gost: bydd pawb sy’n talu biliau yng Nghymru’n gorfod gwneud hynny, a dim ond 11 o’r rheini yw ACau Plaid Cymru, a llai na hynny o bosibl hyd yn oed erbyn y dôi’n adeg gosod unrhyw geblau. Mae 291,000 o gartrefi yng Nghymru—sef 23 y cant—eisoes yn byw mewn tlodi tanwydd. Beth sydd gan yr 11 AC Plaid Cymru, sy’n gallu fforddio talu biliau ynni uwch, i’w ddweud wrth y 291,000 o gartrefi yng Nghymru sy’n ei chael hi’n anodd talu eu biliau cyfredol—’Ceisiwch beidio â meddwl am yr oerfel, ond mwynhewch yr olygfa yn lle hynny’? Bydd ganddynt ryw hen esgus tila ynglŷn â’r angen i’w wneud er mwyn gwarchod twristiaeth. Wel, nid wyf yn credu y bydd ymwelwyr sy’n dod o’r trefi a’r dinasoedd i fwynhau ein tirwedd yn ailfeddwl oherwydd ambell beilon neu linell uwchben arall, yn enwedig os yw’n golygu bod eu hystafell yn y gwesty yn parhau i fod am bris cystadleuol a bod yna lawer o seilwaith twristiaeth lleol bywiog nad yw wedi mynd i’r wal oherwydd costau ynni.
Gyda goblygiadau enfawr o ran cost ac amser cynnal a chadw mae’n anodd gweld sut y mae hyn yn unrhyw beth ond ystryw sinigaidd i fachu ychydig benawdau gan blaid sy’n gwybod y gall yn addo’r ddaear yn llythrennol, gan nad yw’r bobl byth yn mynd i’w rhoi mewn sefyllfa lle y bydd yn rhaid iddi gyflawni. Mae gan UKIP ymagwedd resymegol a synhwyrol iawn. [Torri ar draws.] Roeddwn yn meddwl y byddech yn hoffi hynny. Mae gan UKIP ymagwedd resymegol a synhwyrol iawn tuag at wneud penderfyniadau yng Nghymru, tra bo Plaid Cymru yn addo popeth heb ystyried o ble y daw’r arian. Wel, mae’r etholwyr yn bobl glyfar sy’n sylweddoli y bydd y cynllun claddu ceblau hwn yn wastraff cwbl frawychus ar arian. Diolch.