Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 18 Ionawr 2017.
Rydym ni yn UKIP yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw. Rydym hefyd yn pryderu am y goblygiadau iechyd cyhoeddus sy’n deillio o gyfyngu ar gasgliadau sbwriel, ac rydym yn cydnabod cysylltiad tebygol rhwng cyfyngu ar gasgliadau a gweld cynnydd dilynol mewn tipio anghyfreithlon.
Bu ymgyrch gan gynghorau ar draws Cymru dros y blynyddoedd diwethaf i gyfyngu ar gasgliadau er mwyn cyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru. Rydym yn cydnabod, yn ystadegol, fod Llywodraeth Cymru wedi perfformio’n dda o ran cyfraddau ailgylchu, ond hoffem ofyn: am ba gost? Yma yng Nghaerdydd, cafwyd nifer o newidiadau i’r casgliadau sbwriel yn y blynyddoedd diwethaf. Ar hyn o bryd, ceir casgliad bag du pob pythefnos a cheir cyfyngiad ar faint o fagiau y gallwch eu rhoi allan. Fodd bynnag, mae’r gostyngiad, hyd yn oed o gasgliad wythnosol i gasgliad pob pythefnos, wedi creu tystiolaeth anecdotaidd go fawr o gynnydd mewn tipio anghyfreithlon. Mae hyn wedi bod yn nodwedd bwysig o’r dudalen lythyrau yn y ‘South Wales Echo’, ac yn nodwedd fynych ar hynny, gyda darllenwyr yn anfon tystiolaeth ffotograffig sylweddol o dipio anghyfreithlon yn eu hardal. Arweiniodd hyn at y cyngor yn gorfod cyflwyno ymgyrch i lanhau’r strydoedd ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf.
Felly, beth y mae’r data ffeithiol sydd ar gael yn ei ddatgelu am dipio anghyfreithlon yng Nghaerdydd? Yn 2015-16, cofnododd Caerdydd y cynnydd mwyaf mewn achosion o dipio anghyfreithlon o blith holl gynghorau Cymru. Ar draws Cymru gyfan, cynyddodd tipio anghyfreithlon 14 y cant yn ystod y cyfnod hwn, pan newidiodd llawer o gynghorau eu polisïau casglu i gydymffurfio â thargedau ailgylchu. ‘Does bosibl nad yw hyn yn dangos cyswllt achosol rhwng cyfyngu ar gasgliadau sbwriel a chynnydd mewn tipio anghyfreithlon, ond mae’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn eu gwelliannau heddiw i’w gweld yn gwadu’r cysylltiad hwn. Mae’n ymddangos eu bod yn mynd yn groes i’r dystiolaeth.