Part of the debate – Senedd Cymru am 6:22 pm ar 18 Ionawr 2017.
Lywydd, rwy’n deall wrth gwrs, pan fydd biliau’n newid, bydd y bobl sy’n gorfod talu mwy yn llawer mwy effro i hynny, ac nid oes yr un gallu i dalu gan bawb ohonynt. Dyna pam y byddwn, yn y flwyddyn ariannol nesaf, yn darparu gwerth dros £200 miliwn o gymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru, swm mwy nag erioed o’r blaen. Bydd yn cynorthwyo mwy na thri chwarter yr holl dalwyr ardrethi yma yng Nghymru. Mae ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach gwerth £100 miliwn eisoes yn cynorthwyo mwy na 70 y cant o fusnesau yng Nghymru. Nid yw dros hanner yr holl fusnesau bach sy’n gymwys yng Nghymru yn talu unrhyw ardrethi o gwbl, ac rydym wedi ymestyn ein cynllun i’r flwyddyn nesaf a byddwn yn defnyddio eleni i lunio cynllun parhaol wedi hynny.
Oherwydd ein bod wedi cydnabod o’r cychwyn cyntaf fod newidiadau i filiau yn disgyn yn anghymesur ar rai ysgwyddau, cyflwynasom gynllun rhyddhad ardrethi trosiannol gwerth £10 miliwn ar ddechrau’r broses. Bydd yn darparu cymorth ychwanegol i dros 7,000 ychwanegol o dalwyr ardrethi, ac mae’r cynllun yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, yn wahanol i’r cynllun ar draws ein ffin, lle y mae’n rhaid i bobl sy’n talu llai ildio peth o’r budd hwnnw er mwyn lliniaru’r effaith ar bobl sy’n gorfod talu mwy. Pe baem yn gwneud hynny yng Nghymru, yna y bobl a fuasai’n ildio’u budd fuasai’r diwydiant dur a chanolfannau gofal iechyd a busnesau eraill ledled Cymru.
Rydym wedi parhau i wrando ar yr hyn y mae busnesau bach, yn enwedig manwerthwyr y stryd fawr, wedi bod yn dweud wrthym dros yr hydref—fod yna rai trefi a chymunedau yn cael eu heffeithio’n arbennig gan yr ailbrisio er gwaethaf y rhyddhad trosiannol hwn. Rwy’n cydnabod bod Nick Ramsay wedi mynegi’r pryderon hyn yn rheolaidd ar ran busnesau yn ei etholaeth. Ceir llawer o strydoedd mawr ar draws y wlad lle y mae’r ardrethi’n gostwng, ond rydym wedi cydnabod bod angen cymorth ychwanegol ar rai manwerthwyr. Dyna pam rydym wedi cyhoeddi £10 miliwn yn ychwanegol ar ben yr hyn a gynigiwyd yn wreiddiol fel cymorth ychwanegol i fanwerthwyr y stryd fawr, gan gynnwys siopau, caffis a thafarndai. Unwaith eto, byddwn yn darparu’r arian hwnnw’n llawn o adnoddau Llywodraeth Cymru, a byddwn yn ei ddosbarthu drwy gynllun grant wedi’i dargedu’n arbennig. Bydd y cynllun rhyddhad yn debyg iawn i’r cynllun rhyddhad manwerthu blaenorol ar gyfer Cymru a gâi ei weinyddu gan awdurdodau lleol. Bydd yn darparu gostyngiad cyfradd safonol yn y rhwymedigaeth i dalwyr ardrethi sy’n gymwys. I lawer o dalwyr ardrethi, yn enwedig y rhai sydd ar hyn o bryd ond yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi rhannol i fusnesau bach, bydd y rhyddhad yn lleihau’r hyn sy’n weddill o’u rhwymedigaeth i ddim. Nawr, rwy’n deall yn iawn y galwadau o gwmpas y Siambr am ryddhau manylion llawn y cynllun, ac rwy’n awyddus i wneud hynny cyn gynted â phosibl. Cyfarfûm â swyddogion yn gynharach yr wythnos hon i gyflymu’r broses, ond mae’n rhaid i ni lunio’r cynllun yn gyfreithlon, mae’n rhaid i ni ymgynghori â’r awdurdodau lleol a fydd yn gyfrifol am ei weinyddu, ac mae angen i ni siarad â chynrychiolwyr busnes bach yn ogystal, i wneud yn siŵr fod y £10 miliwn yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol sy’n bosibl. Bydd hynny’n cymryd ychydig wythnosau yn hwy. Cyn gynted ag y gallwn ei gwblhau, byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ffigurau’r manylion hynny, ac yna caiff yr arian ei roi ar waith i gynorthwyo’r busnesau y buasem yn dymuno ei weld—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.