Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 18 Ionawr 2017.
Rwy’n ddiolchgar iawn am y ffordd rydych wedi taflu goleuni ar y broses, ac rwy’n deall bod yn rhaid i chi weithio o fewn y gyfraith a’r rheoliadau. Pan ddywedwch ychydig wythnosau, efallai y gallwch roi syniad i ni pa mor hir y gallai hynny fod? Oherwydd gwn mai’r cwestiwn cyntaf a gaf fydd: ‘Beth y mae ychydig wythnosau yn ei olygu yn y cyd-destun hwn?’