Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 24 Ionawr 2017.
Roedd gen i ddiddordeb mawr, Brif Weinidog, yn yr ateb yna gan nad wyf i wedi gweld y data, ac roeddwn i’n meddwl y byddai angen rhyw lefel o fuddsoddiad i leihau’r allyriadau hyn, a oedd dros ddwywaith y terfyn Ewropeaidd a gytunwyd. Felly, rwy’n siŵr pe gallech chi roi'r wybodaeth honno yn y Llyfrgell neu ei dosbarthu i'r Aelodau, y byddem yn ddiolchgar dros ben. Ond y peth yw mae’n rhaid i chi weithredu'n gyflym fel y gall y cyhoedd fod yn sicr y byddant yn cael eu diogelu. Bydd yr orsaf bŵer hon yn goroesi hyd at y tymor canolig, er bod hynny ar gyfer galw brig, ond, wyddoch chi, mae ei hallyriadau yn mynd dros Gaerdydd, Bryste a rhannau o orllewin Lloegr; mae hwn yn fater difrifol.