<p>Gorsaf Bŵer Aberddawan</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 24 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:03, 24 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Ydy. Y wybodaeth, fel y dywedais, sydd gennym ni gan Gyfoeth Naturiol Cymru yw bod allyriadau wedi gostwng o’r gwaith ei hun. Ar 6 Ionawr, ysgrifennodd Cyfoeth Naturiol Cymru at RWE yn nodi ei fwriad i ddechrau ar y broses o ddiwygio trwydded Aberddawan. Ategwyd y llythyr hwnnw gan gais ffurfiol am esboniad o gynlluniau cydymffurfio RWE, a 17 Chwefror yw’r dyddiad cau ar gyfer ymateb i'r cais am wybodaeth. Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud bod RWE wedi buddsoddi yn y gwaith i leihau allyriadau ond, wrth gwrs, mae'n rhaid dod â nhw o fewn y terfyn fel y gallant gael trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn y dyfodol.