3. 3. Datganiad: Dyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 24 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:24, 24 Ionawr 2017

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i hefyd ddiolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad heddiw, sydd wedi mwy nag egluro i ni pwysigrwydd cyfansoddiadol gwleidyddol y cyfan mae o wedi gallu ei wneud? Mi fuaswn i’n cyfeirio yn gryno at dair elfen: yn gyntaf, bod y gwledydd datganoledig a’r Llywodraethau wedi siarad â thri llais, ond yn canu bron yn unsain, neu o leiaf mewn cynghanedd gyflawn, sef bod y dadleuon oedd yn cael eu cyflwyno yn ddadleuon oedd yn dangos yn glir natur cyfansoddiad y deyrnas. Mae hynny wedi bod yn gyfraniad allweddol.

Rydw i’n meddwl hefyd fod y drws sydd wedi cael ei agor yn glir iawn yn y dyfarniad yma gan y Goruchaf Lys ynglŷn â’r hyn fydd yn digwydd pan ddeuir mas o’r Undeb Ewropeaidd ac fel y bydd y cymwyseddau yn y sefydliadau datganoledig yn gallu cael eu newid—bod y ffenest yna wedi ei dangos inni yn glir iawn. Yn y cyd-destun yma, os caf i helpu efallai ychydig ar ddealltwriaeth Simon Thomas o’r materion hyn, yn y sefyllfa yna y mae confensiwn Sewel mor allweddol. Oherwydd ar yr un pryd ag yr ydym ni’n trafod y materion yma, mae confensiwn Sewel bellach yn Neddf yr Alban ac yn Neddf Cymru. Mae’r broses ar y ddwy Ddeddf yna wedi ei gwblhau, sy’n golygu felly fod yr arfer confensiynol o beidio â deddfu yn groes yn Senedd San Steffan neu yn Senedd Cymru ynglŷn â’i gilydd wedi dod yn ddeddf. Beth sy’n bwysig, byddwn i’n ei awgrymu, Gwnsler Cyffredinol, yw bod yr egwyddor yna’n ymestyn i ddeddfwriaeth Ewropeaidd fel y mae hi’n cael ei dadwneud yn ei heffaith ar y Deyrnas Unedig ac felly bod y cymwyseddau priodol yn dod i’r lle hwn.

Felly, rydw i’n credu bod eich dadansoddiad chi o ble’r ydym ni yn cyfiawnhau’r gwaith a wnaeth Llywodraeth Cymru, a mwy o rym ichi yn y dyfodol.